Cyfarfodydd

P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 

 


Cyfarfod: 23/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

NDM6727 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd’ a gasglodd 7,171 o lofnodion.

2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2018.

P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.30

NDM6727 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd’ a gasglodd 7,171 o lofnodion.

2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Trafod adroddiad drafft - P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiad gyda rhai mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebydd a chytunwyd i:

 

·         ysgrifennu at Cefas i ofyn am eu hymateb i bryderon dros y fethodoleg brofi a godwyd gan y deisebwyr;

·         llunio adroddiad crynodeb o'r dystiolaeth a ddaeth i law wrth i'r Pwyllgor drafod y ddeiseb; a

·         gofyn am amser am ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad.

 


Cyfarfod: 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gyngor Caerdydd ac aeth i gyfarfod diweddar y Cyngor lle trafodwyd y mater. 

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth a ganlyn cyn cytuno ar unrhyw gamau pellach:

    • diweddariad gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi gwybod a fydd gwaith samplu ychwanegol yn cael ei gynnal ar ddyfnder ar y deunydd sydd i'w garthu;
    • canlyniadau'r dadansoddiad dos ymbelydredd a wnaed gan Cefas ar y samplau a gymerwyd yn 2009;
    • manylion unrhyw astudiaethau pellach mewn perthynas ag Aber Afon Hafren; a
    • dadansoddiad pellach gan y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law mewn sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • yn awgrymu y dylai CNC ofyn am gymryd samplau pellach ar ddyfnder, a hynny er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd mewn perthynas â'r drwydded hon;
  • yn sicrhau bod canlyniadau pob dadansoddiad a wneir o'r gwaddod ar gael i'r cyhoedd;
  • yn argymell y dylid egluro manylion yr holl radioniwclidau y profwyd amdanynt mewn perthynas ag unrhyw brofion pellach, yng ngoleuni'r dryswch blaenorol ynghylch manylion y gwaith asesiad radiolegol a gynhaliwyd ar y deunydd; ac
  • yn gofyn am ragor o fanylion am unrhyw waith samplu neu fonitro a wnaed yn ardal ehangach Aber Hafren ehangach ac astudiaethau yn ymwneud â sut y byddai'r gwaddodion yn debygol o wasgaru ar ôl eu dympio ar safle Cardiff Grounds.

 

 


Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn dystiolaeth - P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

·         John Wheadon, Rheolwr Gwasanaeth Trwyddedu

·         Adam Cooper, Uwch-swyddog Trwyddedu

 

 

Cefas

 

·         David Carlin, Cyfarwyddwyr Gwyddoniaeth, Cefas

·         Kins Leonard

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ganolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS).

 

 


Cyfarfod: 05/12/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn dystiolaeth 2 - P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Chris Fayers, Pennaeth yr Amgylchedd, Adeiladau Newydd – EDF Energy

Pete Bryant, Arbenigwr Datgomisiynu a Chynghorydd ar Wastraff Ymbelydrol – EDF Energy

Stephen Roast, Arbenigwr Technegol Morol – EDF Energy

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr EDF Energy.

 


Cyfarfod: 05/12/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol

P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn y sesiynau blaenorol, gan gytuno i wahodd Cyfoeth Naturiol Cymru a Cefas i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor cyn gynted ag y bo modd yn y flwyddyn newydd.

 


Cyfarfod: 05/12/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Sesiwn dystiolaeth 1 - P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Tim Deere-Jones - Deisebydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gyngor Caerdydd.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tim Deere-Jones, y deisebydd.

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Roedd wedi llofnodi'r ddeiseb i gefnogi'r mater.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • gwahodd y deisebydd i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf a fydd ar gael; ac
  • aros am ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gwestiynau manwl a holwyd mewn llythyr gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

Wedi i'r camau hyn gael eu cwblhau, cytunodd y Pwyllgor y bydd yn ystyried eto a ddylid ceisio amser ar gyfer dadl ynghylch y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn.