Cyfarfodydd
P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-775 Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 39 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 14.01.20 Gohebiaeth – Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 80 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud
Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru a chytunwyd i gau’r
deisebau o ystyried bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bellach wedi
diystyru mynd ar drywydd newid deddfwriaethol yn y maes hwn yn ystod gweddill y
Cynulliad hwn, ac mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd sawl mesur a
newidiadau polisi gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyfamser.
Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-775 Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 29 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 24.07.19 Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Y Diweddaraf ynghylch y Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus (Cymru) a'r agenda ar gyfer diwygio gwasanaethau bysiau yn ehangach, Eitem 3 PDF 72 KB Gweld fel HTML (3/2) 19 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r ddeiseb P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud
Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru, a chytunwyd i ysgrifennu
at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf
am gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran diwygio trwyddedu tacsis ac,
yn benodol, y cynllun ar gyfer camau tymor byr y gellid eu cymryd ymlaen llaw i
ddeddfwriaeth.
Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
6 P-05-775 Cau'r bwlch gweithredu tacsis yn drawsffiniol ac is-gontractio.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 6 PDF 39 KB Gweld fel HTML (6/1) 10 KB
- 05.06.19 Gohebiaeth – Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 6 PDF 23 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a
chytunodd i aros nes bod yr adroddiad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar
Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn ystyried a ddylid cymryd
camau pellach ar y deisebau.
Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 39 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 2.1.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 389 KB
Cofnodion:
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae ganddo deulu a ffrindiau sy'n gweithio yn
y diwydiant tacsis.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynglŷn
â'r ddeiseb a chytunodd i anfon y wybodaeth a gafwyd gan y deisebwyr at
Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y
Papur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gofyn:
- a
fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngu neu atal gweithio
trawsffiniol pe bai'n penderfynu peidio â sefydlu un awdurdod trwyddedu
cenedlaethol yn dilyn yr ymgynghoriad; a
- phe
bai awdurdod trwyddedu cenedlaethol yn cael ei sefydlu, a fyddai'n rheoli
nifer y tacsis a cherbydau llogi preifat sy'n gweithredu mewn ardal
benodol, ac os felly sut.
Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 39 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 27.09.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 29 KB Gweld fel HTML (3/2) 8 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:
·
grwpio'r
ddeiseb hon gyda deiseb P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud
Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru a'u hystyried gyda'i gilydd yn y
dyfodol; ac
·
aros i
Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gynigion i ddiwygio trwyddedu cerbydau hurio
preifat a thacsis yng Nghymru gael ei gyhoeddi, cyn ystyried camau pellach ar y
ddeiseb.
Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-775 Cau'r bwlch gweithredu tacsis yn drawsffiniol ac is-gontractio
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 39 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 06.11.17 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 144 KB
- 14.11.17 Gohebiaeth – y Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 247 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i aros
nes bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi crynodeb o'i hymgynghoriad cyhoeddus
diweddar ynghylch diwygiadau posibl i drwyddedu tacsis, a ddisgwylir cyn diwedd
2017, cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb.