Cyfarfodydd

P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am ganlyniadau ymgynghoriad Cymwysterau Cymru, Cymwys ar gyfer y Dyfodol, a thrafod y ddeiseb eto bryd hynny.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth y Gweinidog Addysg a chan Cymwysterau Cymru, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu at Cymwysterau Cymru i nodi barn y Pwyllgor y dylai pawb allu astudio'r holl gymwysterau sydd ar gael yn y ddwy iaith swyddogol yng Nghymru;
  • ysgrifennu at y deisebydd i'wannog i ymgysylltu'n uniongyrchol ag ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar ffurf cymwysterau 14-16 yn y dyfodol cyn ystyried y ddeiseb eto; ac
  • aros am y cynigion sy'n deillio o ymgynghoriad Cymwysterau Cymru cyn ystyried y ddeiseb eto.

 

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Cymwysterau Cymru a'r Gweinidog Addysg i ofyn am fwy o wybodaeth am y camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg o'r dechrau o dan y cwricwlwm newydd.

 


Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a chan Gomisiwn y Gymraeg a chytunodd i ysgrifennu at Gymwysterau Cymru a'r Gweinidog Addysg i rannu'r dadansoddiad a'r wybodaeth a gafwyd gan Gomisiwn y Gymraeg, a gofyn iddynt ymateb i'r atebion penodol a gynigiwyd.

 

 

 


Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu yn ôl i holi ai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw sicrhau cydraddoldeb rhwng darpariaeth addysg Gymraeg a darpariaeth addysg cyfrwng Saesneg, o ystyried bod gan y ddwy iaith statws swyddogol yng Nghymru;

·         yn y cyfamser, ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn am ei barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Cymwysterau Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i rannu'r farn a fynegwyd gan y deisebydd a gofyn am safbwynt Llywodraeth Cymru ar y polisi a amlinellwyd gan Cymwysterau Cymru mewn perthynas â phynciau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, ac i roi amser ychwanegol i'r deisebydd roi ei sylwadau, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

  • Cymwysterau Cymru i gael diweddariad ar y sefyllfa bresennol, gofyn am wybodaeth am faint o bynciau TGAU a Safon Uwch na ellir eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a gofyn pa gymorth sydd ar gael i fyrddau arholi i'w hannog i ddarparu papurau arholiad a deunyddiau ategol; ac
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, neu y byddai'n disgwyl i Cymwysterau Cymru ei ddarparu, i gynorthwyo byrddau arholi sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gymru i ddarparu papurau arholiad a deunyddiau ategol drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

 


Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y byddai ganddo ddiddordeb mewn ystyried y materion a godwyd yn sgil y ddeiseb hon ymhellach a chytunodd i roi cyfle i'r deisebydd roi ei sylwadau mewn ymateb i'r ohebiaeth a gafwyd, ond cau'r ddeiseb yn y cyfarfod nesaf os na ddaw hyn i law.

 


Cyfarfod: 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru cyn penderfynu ar gamau pellach i'w cymryd ynghylch y ddeiseb.