Cyfarfodydd
NDM6507 - Dadl: Data - Cynyddu Agoredrwydd ac Argaeledd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 26/09/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 26/09/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 26/09/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Data - Bod yn fwy agored a hygyrch
NDM6507
Jane Hutt (Bro
Morgannwg):
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored yn sgil cyhoeddi ein Cynllun Data
Agored cyntaf erioed a'i weithredu'n barhaus.
2. Yn nodi'r
cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yma, ynghyd â chynlluniau parhaus i
wneud data yn fwy agored a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch.
3. Yn cefnogi
uchelgais Llywodraeth Cymru i dynnu ar bwerau deddfwriaethol i ddatblygu
canllawiau sy'n annog pob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud mwy o
ddefnydd o ddata agored ac i gyhoeddi mwy.
4. Yn cefnogi
nod Llywodraeth Cymru i addasu prosesau ar gyfer caffael nwyddau neu
wasanaethau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a
thrydydd sector i wella prosesau rhannu data a lleihau dyblygu yn y broses o
gasglu data ledled Cymru.
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o gydweithio â rhanddeiliaid a
chyrff allweddol i sicrhau bod casglu data yn canolbwyntio ar gael y wybodaeth
gywir i ddylanwadu ar newidiadau cadarnhaol mewn polisi a'u cyflawni.
Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru weithio i sicrhau bod awdurdodau lleol yn dilyn
yr esiampl a osodir gan Gyngor Sir Fynwy a reolir gan y Ceidwadwyr drwy
gyhoeddi ei holl wariant.
Gwelliant 4. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu y dylid casglu data perfformiad a'i gyhoeddi mewn modd sy'n galluogi
cymariaethau â gwledydd eraill yn y DU.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
17.56
NDM6507 Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored yn sgil cyhoeddi ein Cynllun
Data Agored cyntaf erioed a'i weithredu'n barhaus.
2.
Yn nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yma, ynghyd â chynlluniau
parhaus i wneud data yn fwy agored a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch.
3.
Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i dynnu ar bwerau deddfwriaethol i
ddatblygu canllawiau sy'n annog pob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i
wneud mwy o ddefnydd o ddata agored ac i gyhoeddi mwy.
4.
Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i addasu prosesau ar gyfer caffael nwyddau neu
wasanaethau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a
thrydydd sector i wella prosesau rhannu data a lleihau dyblygu yn y broses o
gasglu data ledled Cymru.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o gydweithio â rhanddeiliaid a
chyrff allweddol i sicrhau bod casglu data yn canolbwyntio ar gael y wybodaeth
gywir i ddylanwadu ar newidiadau cadarnhaol mewn polisi a'u cyflawni.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru weithio i sicrhau bod awdurdodau lleol yn dilyn
yr esiampl a osodir gan Gyngor Sir Fynwy a reolir gan y Ceidwadwyr drwy
gyhoeddi ei holl wariant.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
8 |
27 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu y dylid casglu data perfformiad a'i gyhoeddi mewn modd sy'n galluogi
cymariaethau â gwledydd eraill yn y DU.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6507 Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored yn sgil cyhoeddi ein Cynllun
Data Agored cyntaf erioed a'i weithredu'n barhaus.
2.
Yn nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yma, ynghyd â chynlluniau
parhaus i wneud data yn fwy agored a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch.
3.
Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i dynnu ar bwerau deddfwriaethol i
ddatblygu canllawiau sy'n annog pob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i
wneud mwy o ddefnydd o ddata agored ac i gyhoeddi mwy.
4.
Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i addasu prosesau ar gyfer caffael nwyddau neu
wasanaethau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw.
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a
thrydydd sector i wella prosesau rhannu data a lleihau dyblygu yn y broses o
gasglu data ledled Cymru.
6.
Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o gydweithio â rhanddeiliaid a
chyrff allweddol i sicrhau bod casglu data yn canolbwyntio ar gael y wybodaeth
gywir i ddylanwadu ar newidiadau cadarnhaol mewn polisi a'u cyflawni.
7.
Yn credu y dylid casglu data perfformiad a'i gyhoeddi mewn modd sy'n galluogi
cymariaethau â gwledydd eraill yn y DU.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.