Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad Rhag Ardrethi Annomestig)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig)

NDM6529 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig), sy'n ymwneud â rhyddhad ardrethi annomestig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Gorffennaf 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

Bill documents — Telecommunications Infrastructure (Relief from Non-Domestic Rates) Bill 2017-19 — UK Parliament (Saesneg yn unig)

Dogfen ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau – 12 Hydref 2017

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.49

NDM6529 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig), sy'n ymwneud â rhyddhad ardrethi annomestig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 11/10/2017 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad Rhag Ardrethi Annomestig)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol