Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

NDM6722 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU barhau i ystyried darpariaethau Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu’n addasu’r cymhwysedd hwnnw.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Medi 2017 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

European Union (Withdrawal) Bill 2017-19 — UK Parliament (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.52

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6722 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU barhau i ystyried darpariaethau Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu’n addasu’r cymhwysedd hwnnw.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Medi  2017 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

9

55

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 14/05/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Adroddiad drafft

CLA(5)-14-18 – Papur 6 – Adroddiad Drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 11/12/2017 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Bil yr UE (Ymadael): Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-30-17 - Papur 10 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-30-17 - Papur 11 - Briff ymchwil (Saesneg yn unig)

CLA (5) -30-17 - Papur 12 - Briff cyfreithiol (Saesneg yn unig)

CLA(5)-30-17– Papur 13 – Adroddiad drafft (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ddosbarthu adroddiad diwygiedig i'r Pwyllgor trwy e-bost.

 


Cyfarfod: 11/12/2017 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) - ystyried yr adroddiad interim drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunwyd ar yr adroddiad interim.

 


Cyfarfod: 04/12/2017 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-29-17 – Papur 12 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
CLA(5)-29-17 – Papur 13 – Briff ymchwil (Saesneg yn unig)
CLA(5)-29-17 – Papur 14 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Cyfreithiol (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes.

 


Cyfarfod: 27/11/2017 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Llythyr oddi wrth y Llywydd

CLA(5)-28-17 – Papur 7  - Llythyr oddi wrth y Llywydd, 23 Tachwedd 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 02/10/2017 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Papur i'w nodi 1 - Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol ynghylch craffu ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1a Nododd yr aelodau yr ohebiaeth.