Cyfarfodydd

Diwygio’r Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/01/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: Trafod yr ymateb

CLA(5)-04-20 – Papur 8 – Ymateb drafft

CLA(5)-04-20 – Papur 9 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 16 Rhagfyr 2019

CLA(5)-04-20 – Papur 10 – Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes, 24 Mai 2018

CLA(5)-04-20 – Papur 11 - Detholiadau o'r adroddiad Deddfu yng Nghymru, Hydref 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Pwyllgor drafod a chytuno ar ei ymateb i'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gohebiaeth y Pwyllgor: Diwygio Etholiadol y Cynulliad (16 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/01/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Llywydd ynghylch diwygio’r Cynulliad: Ariannu’r Comisiwn Etholiadol ac atebolrwydd y sefydliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd ynghylch diwygio’r Cynulliad: Ariannu’r Comisiwn Etholiadol ac atebolrwydd y sefydliad.

 


Cyfarfod: 10/12/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Llythyr gan y Llywydd: Diwygio'r Cynulliad

CLA(5)-32-18 – Papur 53 – Llythyr gan y Llywydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd.

 


Cyfarfod: 03/12/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Llywydd ynghylch diwygio'r Cynulliad: cymhwysedd deddfwriaethol

CLA(5)-31-18 – Papur 27 – Llythyr gan y Llywydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd.

 


Cyfarfod: 24/09/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Creu Senedd i Gymru – adroddiad yr ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 25

Cyfarfod: 28/11/2017 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Diwygio’r Cynulliad: Trafod y llythyr drafft

SoC(5)-11-17 Papur 1 – Llythyr drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ystyriodd yr Aelodau y llythyr drafft a chytuno ar ei gynnwys.

 


Cyfarfod: 07/11/2017 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Diwygio'r Cynulliad

SoC(5)-10-17 Papur 2 - Briffio cyfreithiol ar oblygiadau Deddf Cymru 2017 i Adran 36 Deddf Llywodraeth Cymru 2006

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Rhoddodd Ymgynghorydd Cyfreithiol y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i ychwanegu at ei bapur ar S36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

3.2 Rhoddodd y Comisiynydd Safonau ei farn ar yr adran berthnasol ac awgrymodd ei fod yn siarad â'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i ganfod a yw'n teimlo bod y trefniadau presennol yn foddhaol. Awgrymodd hefyd iddo edrych yn ôl ar y Protocol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Comisiynydd Safonau, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron ar Ymchwilio i Droseddau Honedig o dan Adran 36(7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru.

3.2 Gofynnodd y Pwyllgor i'r Comisiynydd Safonau fynd yn ei flaen fel yr awgrymwyd a chytunwyd i ailystyried y mater hwn unwaith y bydd wedi canfod y wybodaeth.

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Diwygio'r Cynulliad: Gohebiaeth gan y Llywydd

SoC(5)-09-17 Papur 1 – Gohebiaeth gan y Llywydd – Diwygio’r Cynulliad: Safonau Ymddygiad (18 Awst 2017)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr aelodau y llythyr a gofynnodd am wybodaeth briff cyfreithiol manwl a bydd yn dychwelyd at y mater hwn yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 09/02/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd: Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad

Dogfennau ategol: