Cyfarfodydd
NDM6513 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/09/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/09/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/09/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6513 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'.
2.
Yn gresynu at y diffyg manylion yn y ddogfen a'r diffyg targedau penodol ar
gyfer y Llywodraeth o dan arweiniad Llafur yn ystod y pumed Cynulliad.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu targedau penodol a mesuradwy iddi eu
cyflawni erbyn 2021 sy'n ymwneud â'r economi, y system addysg a'r gwasanaeth
iechyd.
'Ffyniant
i bawb – y strategaeth genedlaethol'
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu
pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
2.
Yn nodi bod y strategaeth genedlaethol newydd yn ategu'r addewidion
uchelgeisiol a nodwyd eisoes yn Symud Cymru Ymlaen, gan gynnwys sefydlu Cronfa
Triniaethau Newydd a chynyddu gwariant ar safonau ysgolion.
3.
Yn cydnabod bod angen i'r llywodraeth a phob partner cyflenwi yng Nghymru
weithio'n well, ac ar draws strwythurau presennol, i ddarparu'r gwasanaethau
gorau posibl yn wyneb agenda parhaus o doriadau niweidiol gan Lywodraeth y DU.
[Os derbynnir gwelliant 1,
caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
gresynu bod Cymru, ers 1999, wedi disgyn ar ei hôl hi o ran cynhyrchiant
economaidd, cyflogau ac incwm y cartref o'i gymharu â'r Deyrnas Unedig yn ei
chyfanrwydd.
Gwelliant 3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
gresynu at oedi parhaus Llywodraeth Cymru yn y broses o gyhoeddi ei strategaeth
economaidd a'i methiant i ymgynghori â'r gymuned fusnes a rhanddeiliaid eraill
ar ei chynnwys.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6513 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi strategaeth
genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'.
2. Yn gresynu at y diffyg
manylion yn y ddogfen a'r diffyg targedau penodol ar gyfer y Llywodraeth o dan
arweiniad Llafur yn ystod y pumed Cynulliad.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i amlinellu targedau penodol a mesuradwy iddi eu cyflawni erbyn 2021 sy'n
ymwneud â'r economi, y system addysg a'r gwasanaeth iechyd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
38 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
2. Yn nodi bod y strategaeth genedlaethol newydd yn
ategu'r addewidion uchelgeisiol a nodwyd eisoes yn Symud Cymru Ymlaen, gan
gynnwys sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd a chynyddu gwariant ar safonau
ysgolion.
3. Yn cydnabod bod angen i'r llywodraeth a phob partner
cyflenwi yng Nghymru weithio'n well, ac ar draws strwythurau presennol, i
ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl yn wyneb agenda parhaus o doriadau
niweidiol gan Lywodraeth y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
26 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
1. Yn nodi strategaeth genedlaethol
Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'.
2. Yn nodi bod y strategaeth genedlaethol newydd yn
ategu'r addewidion uchelgeisiol a nodwyd eisoes yn Symud Cymru Ymlaen, gan
gynnwys sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd a chynyddu gwariant ar safonau
ysgolion.
3. Yn cydnabod bod angen i'r llywodraeth a phob partner
cyflenwi yng Nghymru weithio'n well, ac ar draws strwythurau presennol, i
ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl yn wyneb agenda parhaus o doriadau
niweidiol gan Lywodraeth y DU.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
10 |
16 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.