Cyfarfodydd

P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni’r ffaith bod y gwelyau cyllyll môr yn Llanfairfechan yn parhau i fod ar gau, yn ogystal â’r gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud ar ran Llywodraeth Cymru a’r ymrwymiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y byddai’n ystyried cwotâu dyddiol, y ddalfa fwyaf a ganiateir a chyfnodau cau, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd, felly dylid cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i groesawu’r cynnydd sy’n cael ei wneud ac i ofyn iddi ystyried cyflwyno deddfwriaeth neu reoliadau newydd ar gyfer llywodraethu cynaeafu cyllyll môr, ar y llinellau a gynigiwyd gan y deisebydd, ar ôl cwblhau’r astudiaethau cyfredol.

 


Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gadw golwg ar y mater hwn tan y bydd y gwaith asesu stoc ar ben cyn ystyried unrhyw gamau pellach.

 

 


Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymarferiad asesu stoc a statws parhaus y bysgodfa.  

 


Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgil ymrwymiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig mewn perthynas â gwella arwyddion yn nhraeth Llanfairfechan, cynnal ymarfer asesu stoc llawn ac y bydd y pysgodfa yn parhau i fod ar gau tan o leiaf diwedd 2018, cytunodd y Pwyllgor i gaw lygad barcud ac i ystyried y ddeiseb eto tuag at ddiwedd y flwyddyn.

 

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i drafod gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi tystiolaeth lafar ar y ddeiseb yn y dyfodol yn ystod trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:

·         pan fydd y contract asesu stoc yn cael ei roi i dendr, dylai'r cylch gwaith gynnwys mathau, dwysedd ac iechyd corfforol cyllyll môr yn ogystal ag asesiad o'r effeithiau amgylcheddol posibl gorbysgota ar welyau cregyn bylchog;

·         codi arwyddion mwy amlwg a chadarn yn sgil pryderon a fynegwyd nad yw'n ymddangos bod yr arwyddion presennol yn addas at y diben.

 


Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:

o   am ragor o wybodaeth am y graddfeydd amser disgwyliedig o ran y dull datblygu ar gyfer y fethodoleg asesu stoc ac a fydd hynny'n cael ei roi allan i dendr ar wahân;

o   gofyn iddi ymateb i bryderon gan y gymuned leol am y diffyg arwyddion amlwg a chlir sy'n ymwneud â chau'r pysgodfeydd, ac a ellir mynd i'r afael â hyn.

 

 


Cyfarfod: 23/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau'r deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a gofyn am ragor o fanylion am yr astudiaeth ymchwil a gwaith arolygu asesiadau stoc, gan gynnwys pwy fydd yn ei gynnal a'r amserlenni ar gyfer y canlyniadau.

 

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-778 Amddiffyn y Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu eto at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am gadarnhad na fydd y bysgodfa'n cael ei hailagor nes bod canlyniadau'r asesiad stoc yn cael eu hystyried.

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gofyn:  

 

·         iddi roi diweddariad i’r Pwyllgor ar ôl cwblhau’r arolwg, a manylion unrhyw gamau pellach mae’n bwriadu eu cymryd i ddiogelu stociau cyllyll môr; ac

a oes unrhyw gamau wedi’u cymryd i ymchwilio i honiadau fod cynaeafu cyllyll môr wedi parhau ers cau’r bysgodfa.