Cyfarfodydd
P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-775 Cau'r bwlch gweithredu tacsis yn drawsffiniol ac is-gontractio
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 39 KB Gweld fel HTML (2/1) 10 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 104 KB Gweld fel HTML (2/2) 43 KB
- 08.09.17 Gohebiaeth – gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 2 MB
- 09.10.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 45 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i rannu barn y deisebwyr, gan
gynnwys yr awgrym y dylai fod yn ofynnol i deithiau ddechrau neu ddod i ben yn
yr ardal y mae'r cerbyd a'r gyrrwr wedi'u trwyddedu ynddi, a gofyn am y
diweddaraf am y farn mewn perthynas â thrwyddedu trawsffiniol ac isgontractio a
ddaeth i law drwy'r ymgynghoriad diweddar.