Cyfarfodydd

P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • gofyn i'r deisebwyr roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch a ellir trefnu cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a rhoi adborth pellach yn dilyn hyn;
  • os na threfnwyd cyfarfod, ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn iddo ef neu ei swyddogion gyfarfod â'r deisebwyr; ac
  • ysgrifennu eto yn gofyn am wybodaeth gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a De Cymru ynghylch unrhyw waith a wnaed i wella diogelwch ceffylau a marchogion wrth iddynt ddefnyddio'r ffyrdd, gan gynnwys hyrwyddo ymgyrchoedd i atal goddiweddyd yn agos, ac am unrhyw farn ehangach a allai bod yn berthnasol i ystyriaeth y Pwyllgor o'r mater hwn.

 

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Gymdeithas Ceffylau Prydain ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am amlinelliad o'r gweithgareddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â nhw i gyflawni'r camau gweithredu perthnasol yn y Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd; a'r
  • Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i ofyn a yw'r heddluoedd yng Nghymru wedi gwneud unrhyw waith i wella diogelwch ceffylau a marchogion sy'n defnyddio'r ffyrdd, gan gynnwys hyrwyddo ymgyrchoedd i atal pobl rhag mynd heibio'n agos.

 

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gwnaeth David Rowlands ddatgan y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ei ferch yn marchogaeth ceffylau.

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: 

 

·         Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn a fyddai’n ystyried a ellid rhoi cymorth ychwanegol i ymgyrch “Dead? Or Dead Slow” Cymdeithas Ceffylau Prydain; ac

·         Ysgrifennu at Gymdeithas Ceffylau Prydain i ofyn eu barn am y ddeiseb a’r camau y credir y gellid eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o’r angen i arafu wrth basio ceffylau a rhoi digon o le iddynt.