Cyfarfodydd
NDM6348 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 12/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 12/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6348
David
Melding (Canol De Cymru)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi mai Cymru yw'r unig un o'r gwledydd cartref sydd heb ganolfan
rhewmatoleg bediatrig arbenigol;
2.
Yn nodi bod tua 400 o blant yn ne Cymru yn unig sy'n dioddef o arthritis
idiopathig ieuenctid;
3.
Yn cydnabod yr angen am ganolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth yng
Nghymru;
4.
Yn nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad
cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig arbenigol yng Nghymru; a
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau gan Gofal Arthritis, y
Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg
ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng
Nghymru.
Cefnogir
gan:
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM6348
David
Melding (Canol De Cymru)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Cymru yw'r unig un o'r gwledydd
cartref sydd heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol;
2. Yn nodi bod tua 400 o blant yn ne Cymru yn unig
sy'n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid;
3. Yn cydnabod yr angen am ganolfan rhewmatoleg
bediatrig amlddisgyblaeth yng Nghymru;
4. Yn nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd
Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig
arbenigol yng Nghymru; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau
gan Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas
Brydeinig Rhewmatoleg ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig
amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng Nghymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
9 |
0 |
36 |
Derbyniwyd y cynnig.