Cyfarfodydd

NDM6356 - Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl Plaid Cymru

NDM6356 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

2. Yn nodi'r adroddiad ‘Cyrraedd y Miliwn’ gan Blaid Cymru sydd yn amlinellu yn glir rhai o'r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer tyfu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050.

3. Yn galw am weithredu gan y Llywodraeth i:

a) gynllunio ar gyfer twf sylweddol, a normaleiddio, addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg;

b) sicrhau bod ystyriaethau i'r iaith yn rhan annatod o gynllunio economaidd fel rhan o gynnal y cyfundrefnau cynhaliol cyfredol a'r angen i hyn gael ei adlewyrchu yn strategaeth economaidd arfaethedig Llywodraeth Cymru;

c) gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg i reoleiddio a hyrwyddo hawliau siaradwyr Cymraeg ac ehangu safonau'r Gymraeg i’r sector breifat gan gynnwys y sector delathrebu, banciau ac archfarchnadoedd;

d) sefydlu asiantaeth hyd-braich newydd i hyrwyddo'r iaith ym meysydd addysg, y gymuned a'r economi.

Cyrraedd y Miliwn

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori'r haf yma ar y ddarpariaeth ar gyfer Bil y Gymraeg newydd.

Yn cydnabod y camau sydd eisoes wedi'u cymryd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws cymunedau a gweithleoedd, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol.

Yn croesawu sefydlu bwrdd cynllunio er mwyn ymgynghori ar raglen genedlaethol i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol]

Gwelliant 2. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu y bydd mynd yn groes i farn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar unrhyw obaith fydd gan strategaeth Llywodraeth Cymru o lwyddo i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau:

a) bod unrhyw newidiadau i addysg bresennol cyfnodau allweddol 1 i 5 a darpariaeth gofal plant yn cynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:

i) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post; a

ii) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; a

b) na roddir blaenoriaeth i farn trydydd parti, asiantau na chomisiynwyr, gan gynnwys y rhai sy'n awgrymu eu bod yn cynnig cyngor arbenigol ar y ddarpariaeth Gymraeg, dros ddymuniadau trigolion lleol a rhieni.

[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol]

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu 3(b) a rhoi yn ei le:

ystyried y ffordd orau o hyrwyddo caffael a defnyddio sgiliau Cymraeg fel rhan annatod o'i strategaeth economaidd.

Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu 3(c) a rhoi yn ei le:

adolygu rôl Comisiynydd y Gymraeg a sicrhau bod y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwelliant 5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ôl 3(c) ac ailrifo yn unol â hynny:

ystyried diben ac effeithiolrwydd safonau'r Gymraeg cyn unrhyw gynnig i ehangu eu cymhwyso i'r sector preifat.

Gwelliant 6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu 3(d) a rhoi yn ei le:

mabwysiadu model newydd, y tu allan i'r llywodraeth, ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg ym meysydd addysg, y gymuned a'r economi.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.26

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6356 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

2. Yn nodi'r adroddiad ‘Cyrraedd y Miliwn’ gan Blaid Cymru sydd yn amlinellu yn glir rhai o'r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer tyfu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050.

3. Yn galw am weithredu gan y Llywodraeth i:

a) gynllunio ar gyfer twf sylweddol, a normaleiddio, addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg;

b) sicrhau bod ystyriaethau i'r iaith yn rhan annatod o gynllunio economaidd fel rhan o gynnal y cyfundrefnau cynhaliol cyfredol a'r angen i hyn gael ei adlewyrchu yn strategaeth economaidd arfaethedig Llywodraeth Cymru;

c) gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg i reoleiddio a hyrwyddo hawliau siaradwyr Cymraeg ac ehangu safonau'r Gymraeg i’r sector breifat gan gynnwys y sector delathrebu, banciau ac archfarchnadoedd;

d) sefydlu asiantaeth hyd-braich newydd i hyrwyddo'r iaith ym meysydd addysg, y gymuned a'r economi.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

7

0

43

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori'r haf yma ar y ddarpariaeth ar gyfer Bil y Gymraeg newydd.

Yn cydnabod y camau sydd eisoes wedi'u cymryd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws cymunedau a gweithleoedd, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol.

Yn croesawu sefydlu bwrdd cynllunio er mwyn ymgynghori ar raglen genedlaethol i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

23

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6356 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

2. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori'r haf yma ar y ddarpariaeth ar gyfer Bil y Gymraeg newydd.

3. Yn cydnabod y camau sydd eisoes wedi'u cymryd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws cymunedau a gweithleoedd, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol.

4. Yn croesawu sefydlu bwrdd cynllunio er mwyn ymgynghori ar raglen genedlaethol i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

18

6

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.