Cyfarfodydd
NDM6340 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 28/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 28/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 28/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6340 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i
economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
2.
Yn cefnogi mentrau fel Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd
cyfleoedd addysg oedolion ac addysg yn y gymuned i Gymru.
3.
Yn croesawu'r pecyn cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a
myfyrwyr rhan amser a gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad
Diamond.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
darparu gwasanaeth cynghori ac addysg ym maes gyrfaoedd i bob oedran sy'n rhoi
parch cydradd i opsiynau astudio llawn amser a rhan amser, yn cefnogi cynnydd i
bobl sydd mewn cyflogaeth cyflog isel, ac yn cydnabod manteision ehangach
addysg oedolion ac addysg yn y gymuned tuag at wella iechyd a llesiant; a
b)
buddsoddi mewn addysg oedolion ac addysg yn y gymuned er mwyn hwyluso llwybrau
i addysg bellach ac addysg uwch, a thrwy'r opsiynau hynny.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu
pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi cyngor a
chyfarwyddyd ynghylch gwybodaeth am yrfaoedd sy'n annibynnol ac yn ddwyieithog
ar gyfer pobl o bob oedran a hynny drwy Yrfa Cymru.
Yn
cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu cynllun cyflogadwyedd
newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan allweddol ohoni â'r angen am
gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am yrfaoedd er mwyn cynorthwyo unigolion i
fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
Yn
cydnabod pwysigrwydd hanfodol dysgu gan oedolion ynghyd â datblygu sgiliau
ategol ar gyfer pobl o bob oedran.
Gwelliant 2.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a
chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny'n rhesymol ymarferol er mwyn
galluogi'r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
17.31
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6340 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y
cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i economi Cymru, yn
arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
2. Yn cefnogi mentrau fel
Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd addysg oedolion ac
addysg yn y gymuned i Gymru.
3. Yn croesawu'r pecyn
cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a myfyrwyr rhan amser a
gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diamond.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) darparu gwasanaeth
cynghori ac addysg ym maes gyrfaoedd i bob oedran sy'n rhoi parch cydradd i
opsiynau astudio llawn amser a rhan amser, yn cefnogi cynnydd i bobl sydd mewn
cyflogaeth cyflog isel, ac yn cydnabod manteision ehangach addysg oedolion ac
addysg yn y gymuned tuag at wella iechyd a llesiant; a
b) buddsoddi mewn addysg
oedolion ac addysg yn y gymuned er mwyn hwyluso llwybrau i addysg bellach ac
addysg uwch, a thrwy'r opsiynau hynny.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
34 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu
gwasanaeth sy'n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ynghylch gwybodaeth am yrfaoedd sy'n
annibynnol ac yn ddwyieithog ar gyfer pobl o bob oedran a hynny drwy Yrfa
Cymru.
Yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru wrth iddi
ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan
allweddol ohoni â'r angen am gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am yrfaoedd
er mwyn cynorthwyo unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol o ran
addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol dysgu gan oedolion
ynghyd â datblygu sgiliau ategol ar gyfer pobl o bob oedran.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
24 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion
ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny'n
rhesymol ymarferol er mwyn galluogi'r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer
blwyddyn academaidd 2018/19.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
1 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6340 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y
cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i economi Cymru, yn
arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
2. Yn cefnogi mentrau fel
Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd addysg oedolion ac
addysg yn y gymuned i Gymru.
3. Yn croesawu'r pecyn
cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a myfyrwyr rhan amser a
gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diamond.
4. Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi cyngor a
chyfarwyddyd ynghylch gwybodaeth am yrfaoedd sy'n annibynnol ac yn ddwyieithog
ar gyfer pobl o bob oedran a hynny drwy Yrfa Cymru.
5. Yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru wrth
iddi ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo
rhan allweddol ohoni â'r angen am gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am
yrfaoedd er mwyn cynorthwyo unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol
o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
6. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol dysgu gan
oedolion ynghyd â datblygu sgiliau ategol ar gyfer pobl o bob oedran.
7. Yn
annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a
chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny'n rhesymol ymarferol er mwyn
galluogi'r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.