Cyfarfodydd

NDM6336 - Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl Plaid Cymru

NDM6336 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn datgan ei hun fel senedd genedlaethol Cymru.

2. Yn mynnu bod yr holl bwerau ac adnoddau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd ar lefel yr UE o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn mynnu ymhellach fod Llywodraeth y DU yn ceisio cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer pob cytundeb masnach yn y dyfodol â'r UE a gwledydd eraill o amgylch y byd er mwyn diogelu buddiannau economi Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi Papur Polisi Llywodraeth y DU 'The United Kingdom's exit from, and new partnership with, the European Union' sy'n nodi ein bod eisoes wedi ymrwymo na chaiff unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig eu tynnu oddi arnynt ac y byddwn yn defnyddio'r cyfle i ddwyn y broses o wneud penderfyniadau yn ôl i'r DU i sicrhau bod mwy o benderfyniadau yn cael eu datganoli.

'The United Kingdom's exit from, and new partnership with, the European Union'

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Prif Weinidog y DU wedi bod yn glir am ei bwriad i gael cytundeb wedi'i deilwra sy'n gweithio i'r DU gyfan, sy'n sicrhau'r fasnach fwyaf rhydd bosibl o ran tariff a rhwystr â'n cymdogion Ewropeaidd, drwy gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, hyderus ac uchelgeisiol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.33

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6336 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn datgan ei hun fel senedd genedlaethol Cymru.

2. Yn mynnu bod yr holl bwerau ac adnoddau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd ar lefel yr UE o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn mynnu ymhellach fod Llywodraeth y DU yn ceisio cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer pob cytundeb masnach yn y dyfodol â'r UE a gwledydd eraill o amgylch y byd er mwyn diogelu buddiannau economi Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

16

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.