Cyfarfodydd

P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O ystyried bod y Pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad ar wella gwasanaethau iechyd meddwl ac wedi gwneud argymhellion a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, ac oherwydd na chafwyd unrhyw sylwadau pellach gan y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 23/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor gefndir y ddeiseb a chytunodd i ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb fel rhan o'i sesiwn dystiolaeth a gaiff ei chynnal cyn bo hir gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddeiseb P-05-736 i Ddarparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch.

 

 


Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.