Cyfarfodydd

P-05-763 Diweddaru’r cyngor a roddir ynghylch strôc – B.E.F.A.S.T. – a helpu i achub bywydau a bywoliaethau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-763 Diweddaru’r cyngor a roddir ynghylch strôc – B.E.F.A.S.T. – a helpu i achub bywydau a bywoliaethau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gymdeithas Strôc, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a yw'n credu y gallai Llywodraeth Cymru neu'r Grŵp Gweithredu Strôc gymryd unrhyw gamau ychwanegol i sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn ymwybodol o symptomau ychwanegol strôc, fel problemau gyda golwg a chydbwysedd; ac wrth wneud hynny

·         cau'r ddeiseb, o ystyried y cyngor a gafwyd gan y Gymdeithas Strôc a barn y Grŵp Gweithredu Strôc mai prin yw'r dystiolaeth i gefnogi newid y negeseuon cyfredol ynghylch symptomau strôc, a rhoi diolchiadau'r Pwyllgor i'r deisebydd am gyfrannu at drafodaeth ddefnyddiol ar y mater hwn.

 

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-763 Diweddaru’r cyngor a roddir ynghylch strôc – B.E.F.A.S.T. – a helpu i achub bywydau a bywoliaethau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu at y Gymdeithas Strôc i ofyn am eu barn am y ddeiseb; a

·         rhoi cyfle i'r deisebydd wneud sylw ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ac unrhyw ymateb a geir gan y Gymdeithas Strôc.