Cyfarfodydd

Teyrnged goffa

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/04/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Teyrngedau i'w Uchelder Brenhinol Dug Caeredin

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 11.00

Arweiniwyd y Senedd gan y Llywydd i nodi munud o dawelwch. Galwodd y Llywydd ar y Prif Weinidog, arweinwyr y pleidiau ac Aelodau eraill i dalu teyrngedau.

 


Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Teyrngedau i Steffan Lewis AC

Yn dilyn yr eitem hon, bydd y Llywydd yn gohirio’r cyfarfod am 10 munud.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 12.45

Arweiniwyd y Cynulliad gan y Llywydd i nodi munud o dawelwch, a chanwyd y gloch ar ddechrau ac ar ddiwedd y tawelwch. Arweiniodd y Llywydd y teyrngedau a galwodd ar Aelodau i gyfrannu.

Am 13.51, gohiriwyd y trafodion am 9 munud. Canwyd y gloch 5 munud cyn ailymgynnull.


Cyfarfod: 14/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Teyrngedau i Carl Sargeant AC

Yn dilyn yr eitem hon, bydd y Llywydd yn gohirio’r cyfarfod am 30 munud.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 12.30.

Arweiniwyd y Cynulliad gan y Llywydd i nodi munud o dawelwch, a chanwyd y gloch ar ddechrau ac ar ddiwedd y tawelwch. Arweiniodd y Llywydd y teyrngedau a galwodd ar y Prif Weinidog, arweinwyr y pleidiau ac Aelodau eraill i gyfrannu.

Am 13.47, gohiriwyd y trafodion am 13 munud. Canwyd y gloch 5 munud cyn ailymgynnull.


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Teyrngedau i’r cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan

Yn dilyn yr eitem hon, bydd y Llywydd yn gohirio’r cyfarfod am gyfnod byr.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 12.34

Galwodd y Llywydd ar y Prif Weinidog, Arweinwyr y Pleidiau eraill ac Aelodau i wneud cyfraniadau. Yn dilyn hynny, galwodd y Llywydd ar Julie Morgan i siarad, cyn arwain y Cynulliad mewn munud o dawelwch.

Am 13.53, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 12 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull.