Cyfarfodydd

P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • gau'r ddeiseb yn sgîl y ffaith y cafwyd dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn, sydd wedi cyfrannu at drafodaeth gyhoeddus ehangach ynghylch y mater; a
  • chyfeirio'r adroddiad at y grŵp trawsbleidiol i'w ystyried.

 

 


Cyfarfod: 23/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru

 

NDM5340 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mai 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.26

NDM5340 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mai 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor â’r adroddiad drafft.

 

Diolchodd y Cadeirydd yr Aelodau am ddod ac am gyfrannu  a dymunodd Basg hapus i bawb.


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru: Materion allweddol

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb ynghylch sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru a chytunodd ar gyfeiriad adroddiad.


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ddrafftio adroddiad byr er mwyn cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y mater.

 

 


Cyfarfod: 02/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-335 Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i:

Gyfeirio’r mater at y Grŵp Trawsbleidiol ar Chwaraeon;

Trefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn am y pwnc ac yna cau’r ddeiseb. 

 


Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trafod y dystiolaeth a gafwyd ynghylch P-04-335 Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb i’r ohebiaeth a anfonwyd at Cricket Scotland a Cricket Ireland.


Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-335 Sefydlu Tîm Criced i Gymru - Trafodaeth

Matthew Bumford, Deisebydd

Mohammad Asghar AC

Dr Huw Jones, Chwaraeon Cymru

Alan Hamer, Criced Morgannwg

Peter Hybart, Cyfarwyddwr Criced, Criced Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y tyst gwestiynau gan y Aelodau’r Pwyllgor.

 

Cytunodd y Pwyllgor i:

Ysgrifennu at Cricket Scotland a Cricket Ireland ar y pwnc;

Drafod y dystiolaeth a gafwyd yn y cyfarfod ar 27 Mawrth.


Cyfarfod: 29/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:
i anfon llythyr atgoffa at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i holi ei farn am y ddeiseb;

y dylai’r tîm clercio lunio rhestr o wahoddedigion posibl i drafodaeth gyffredinol am y mater;

i ysgrifennu at gyrff chwaraeon nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr alwad am dystiolaeth i holi eu barn am y ddeiseb.


Cyfarfod: 11/10/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-335 Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r broses o drafod y mater hwn tan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ar 18 Tachwedd.