Cyfarfodydd

NDM6303 - Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/05/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl Plaid Cymru

NDM6303 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi'r egwyddor bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cael ei gadw yn nwylo'r cyhoedd.

2. Yn pryderu ynghylch y goblygiadau cyllidebol a thrawsffiniol i wasanaethau iechyd yng Nghymru yn sgil preifateiddio graddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.

3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gytundebau masnach y DU yn y dyfodol fod yn amodol ar gydsyniad y Cynulliad hwn, os bydd y cytundebau hynny'n effeithio ar feysydd polisi datganoledig, fel iechyd.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod y cydweithredu rhwng gwasanaethau iechyd Cymru a Lloegr a dibyniaeth cleifion Cymru ar wasanaethau arbenigol yn Lloegr, fel gwasanaethau trawsryweddol, gwasanaethau newyddenedigol aciwt a gwasanaethau iechyd meddwl i blant.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.43

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6303 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi'r egwyddor bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cael ei gadw yn nwylo'r cyhoedd.

2. Yn pryderu ynghylch y goblygiadau cyllidebol a thrawsffiniol i wasanaethau iechyd yng Nghymru yn sgil preifateiddio graddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.

3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gytundebau masnach y DU yn y dyfodol fod yn amodol ar gydsyniad y Cynulliad hwn, os bydd y cytundebau hynny'n effeithio ar feysydd polisi datganoledig, fel iechyd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

4

11

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.