Cyfarfodydd

P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         gau'r ddeiseb; ac

·         wrth gau'r ddeiseb, ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i'w hysbysu o farn y deisebwyr y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi Llywodraeth y DU i greu un gronfa ddata ganolog ym mhob gwlad Ewropeaidd.

 


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i aros i’r dadansoddiad o’r ymgynghoriad gael ei gyhoeddi.


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gofyn a fyddai modd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ganfyddiadau’r ymgynhoriad; a’r

·         Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i fynegi pryderon am ddod â’r Gronfa Ddata Ceffylau Genedlaethol i ben.


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

Ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd yn gofyn sut mae’n bwriadu atgyfnerthu’r defnydd o basbortau, pryd y cynhelir ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth bosibl a gofyn bod y deisebwyr yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn;

Ysgrifennu at y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 28/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafodaeth bellach ar y ddesieb nes i’r Grŵp Trawsbleidiol yn ymwneud â Cheffylau orffen ei drafodaethau am y pwnc.

 


Cyfarfod: 29/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Grŵp Trawsbleidiol ar y Ceffyl, yn gofyn iddo ystyried y ddeiseb hon.


Cyfarfod: 11/10/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

aros am ymateb y Gweinidog i’r llythyr gan y Cadeirydd; a

gohirio’r broses o drafod y mater hwn tan ar ôl i’r galwad am dystiolaeth ddod i ben ar 18 Tachwedd.