Cyfarfodydd
SL(5)090 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau) at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/07/2017 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
5 Gohebiaeth ynghylch Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) 2017
CLA(5)-18-17
– Papur 7 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn
â: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at
Radd Feistr Ôl-raddedig) 2017, 29 Mehefin 2017
CLA(5)-18-17
– Papur 8 - Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn
â: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at
Radd Feistr Ôl-raddedig) 2017, 15 Mehefin 2017
Dogfennau ategol:
- CLA(5)-18-17 - Papur 7, Eitem 5 PDF 135 KB
- CLA(5)-18-17 - Papur 8, Eitem 5 PDF 260 KB Gweld fel HTML (5/2) 8 KB
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
Cyfarfod: 22/05/2017 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Ymateb y Llywodraeth i SL(5)090 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth i SL(5)090 – Rheoliadau Addysg
(Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017, a oedd ar gael ar ôl
cyhoeddi papurau'r cyfarfod. Nododd y Pwyllgor yr ymateb ac roedd yn fodlon â'r
sylwadau yn ymwneud â materion hawliau dynol o ran y terfyn oed. Fodd bynnag,
nid oedd y Pwyllgor yn teimlo bod yr ymateb yn mynd i'r afael yn llawn â
phryderon y Pwyllgor ynghylch carcharorion cymwys.
Cytunodd y Pwyllgor i osod adroddiad atodol gerbron y Cynulliad ac i
ysgrifennu at y Llywodraeth ynghylch carcharorion cymwys.
Cyfarfod: 15/05/2017 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 SL(5)090 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017
CLA(5)-13-17 – Papur 2 – Rheoliadau
CLA(5)-13-17 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol
CLA(5)-13-17 – Papur 4 – Adroddiad
Dogfennau ategol:
- CLA(5)-13-17 - Papur 2, Eitem 4 PDF 358 KB
- CLA(5)-13-17 - Papur 3 (Saesneg yn Unig), Eitem 4 PDF 160 KB Gweld fel HTML (4/2) 42 KB
- CLA(5)-013-17 - Papur 4, Eitem 4 PDF 231 KB Gweld fel HTML (4/3) 30 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, gan gytuno i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad
Cenedlaethol yn unol â'r pwyntiau adrodd.
Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymateb i'r pwyntiau
adrodd.
Cytunodd y Pwyllgor i drafod ymateb y Llywodraeth yn ei gyfarfod nesaf.