Cyfarfodydd

P-05-755 Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-755 Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ofyn iddo ystyried ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd yr aelodau i gau'r ddeiseb ac i ysgrifennu at y deisebydd i egluro mai mater i'r awdurdod lleol fyddai gwelliannau i'r rhan hon o'r A48.

 


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-755 Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i roi gwybod iddynt am y ddeiseb a'r ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith; ac
  • aros i glywed barn y deisebydd cyn penderfynu ar gamau gweithredu priodol.