Cyfarfodydd
NNDM6289 Dadl: Y goblygiadau i Gymru yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/04/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/04/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Y goblygiadau i Gymru yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd
NNDM6289 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn
Llywodraeth Cymru –
Plaid Cymru, "Diogelu
Dyfodol Cymru" fel dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i
amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn nodi'r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29
Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a'r mandad
negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.
3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU "Legislating for the United
Kingdom's withdrawal from the European Union", a gyhoeddwyd ar
30 Mawrth 2017, sy'n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi
ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod
gwendidau mawr yn y dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr
UE a'r setliad datganoli.
4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i'r strwythurau
cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb
Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i'r setliad datganoli a threfniadau
gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU
yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.
5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i unrhyw
fframweithiau sy'n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y bydd eu hangen o
bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu'n esmwyth, gael eu
cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o'r tair Gweinyddiaeth
Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i ddatrys
anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a
fframweithiau cyffredin o'r fath.
6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso
ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar
ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw
berthynas arall â'r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol
Cymru yn cael eu diogel.
7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw
anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw
ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i'r perwyl hwnnw.
8.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd i'r Cynulliad am
y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.
Dogfennau Ategol
Diogelu
Dyfodol Cymru
Llythyr
y Prif Weinidog yn tanio Erthygl 50
Canllawiau
Drafft yr UE ar gyfer Negodiadau Brexit
Papur
Gwyn "Legislating for the United Kingdom's withdrawal from the European
Union"
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - David J Rowlands
(Dwyrain De Cymru):
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu nad yw Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Plaid
Cymru, "Diogelu Dyfodol Cymru" yn gredadwy oherwydd ei ragdybiaethau
pesimistaidd afrealistig o gostau honedig gadael yr UE.
Gwelliant 2 - David J Rowlands
(Dwyrain De Cymru):
Ym mhwynt 3, dileu 'ond yn credu bod gwendidau mawr yn y
dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a'r setliad
datganoli'.
Gwelliant 3 - David J Rowlands
(Dwyrain De Cymru):
Ym mhwynt 5, dileu 'bydd rhaid i' a rhoi yn ei le
'dylai'.
Gwelliant 4 - David J Rowlands
(Dwyrain De Cymru):
Ym mhwynt 5, dileu 'rhaid i gytundeb a chonsensws fod
wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o'r fath' a rhoi yn ei
le:
'yn cydnabod bod ymddygiad Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth yr Alban wrth barhau i frwydro yn erbyn ymgyrch y refferendwm ar ôl
y canlyniad ar 23 Mehefin 2016 yn gwneud canlyniad o'r fath yn afrealistig'.
Gwelliant 5 - David J Rowlands
(Dwyrain De Cymru):
Dileu pwynt 6.
Gwelliant 6 - David J Rowlands
(Dwyrain De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, pe bai anhyblygrwydd yr UE yn atal cytundeb
masnach rydd â'r DU, byddai costau pontio gadael yr UE, yn seiliedig ar reolau
Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu lleddfu'n sylweddol gan arbedion Prydain o
£8 biliwn y flwyddyn mewn cyfraniadau net i Gyllideb yr UE, a refeniw net
tebygol ar dollau ar fasnach rhwng yr UE a'r DU o £8 biliwn y flwyddyn.
Gwelliant 7 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil parhad (Cymru)
er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n
berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 14.40
NNDM6289 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn
Llywodraeth Cymru –
Plaid Cymru, “Diogelu
Dyfodol Cymru” fel dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i amddiffyn a hyrwyddo
buddiannau Cymru wrth i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn nodi’r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y
DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a’r
mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb
iddo.
3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU
“Legislating for the United Kingdom’s
withdrawal from the European Union”, a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy’n
amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig
â’r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y
dadansoddiad o’r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a’r setliad
datganoli.
4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i’r strwythurau
cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb
Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i’r setliad datganoli a threfniadau
gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU
yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.
5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y
bydd rhaid i unrhyw fframweithiau sy’n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y
bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu’n
esmwyth, gael eu cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o’r
tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau
annibynnol i ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd
dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o’r fath.
6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau
i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar
ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw
berthynas arall â’r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol
Cymru yn cael eu diogelu.
7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o
dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd,
ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i’r perwyl
hwnnw.
8. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi
adroddiad rheolaidd i’r Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu nad yw Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Plaid
Cymru, "Diogelu Dyfodol Cymru" yn gredadwy oherwydd ei ragdybiaethau
pesimistaidd afrealistig o gostau honedig gadael yr UE.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
6 |
10 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu 'ond yn credu bod gwendidau mawr yn y
dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a'r setliad datganoli'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 5, dileu 'bydd rhaid i' a rhoi yn ei le
'dylai'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 5, dileu 'rhaid i gytundeb a chonsensws fod
wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o'r fath' a rhoi yn ei
le:
'yn cydnabod bod ymddygiad Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth yr Alban wrth barhau i frwydro yn erbyn ymgyrch y refferendwm ar ôl
y canlyniad ar 23 Mehefin 2016 yn gwneud canlyniad o'r fath yn afrealistig'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
6 |
10 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, pe bai anhyblygrwydd yr UE yn atal cytundeb
masnach rydd â'r DU, byddai costau pontio gadael yr UE, yn seiliedig ar reolau
Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu lleddfu'n sylweddol gan arbedion Prydain o
£8 biliwn y flwyddyn mewn cyfraniadau net i Gyllideb yr UE, a refeniw net
tebygol ar dollau ar fasnach rhwng yr UE a'r DU o £8 biliwn y flwyddyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
6 |
10 |
38 |
54 |
Derbyniwyd/Gwrthodwyd
gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil parhad (Cymru)
er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n
berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
39 |
6 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NNDM6289 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn
Llywodraeth Cymru –
Plaid Cymru, “Diogelu Dyfodol Cymru” fel dull credadwy
a chynhwysfawr o fynd ati i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth i’r DU
ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn nodi’r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y
DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a’r
mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb
iddo.
3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU
“Legislating for the United Kingdom’s
withdrawal from the European Union”, a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy’n
amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig
â’r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y
dadansoddiad o’r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a’r setliad
datganoli.
4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i’r strwythurau cyfansoddiadol
a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd gael
eu seilio ar barch llwyr i’r setliad datganoli a threfniadau gwell ar gyfer
cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU yn parchu ei
gilydd mewn modd cydradd.
5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y
bydd rhaid i unrhyw fframweithiau sy’n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y
bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu’n
esmwyth, gael eu cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o’r
tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau
annibynnol i ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd
dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o’r fath.
6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau
i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar
ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw
berthynas arall â’r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol
Cymru yn cael eu diogelu.
7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o
dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd,
ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i’r perwyl
hwnnw.
8.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd i’r Cynulliad am
y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.
9.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil parhad (Cymru)
er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n
berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
1 |
16 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.