Cyfarfodydd

P-05-753 Cryfhau’r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-753 Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau pellach y deisebydd, a chytunodd i gau'r ddeiseb ar sail:

 

    • y wybodaeth a ddarparwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'i ddull gweithredu presennol o ran rheoleiddio;
    • y camau a gymerwyd i gryfhau opsiynau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru; a'r
    • newidiadau i'r Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol sydd yn yr arfaeth.

 

 


Cyfarfod: 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-753 Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru am ragor o fanylion am y prosesau a ddilynir pan fydd gweithredwyr yn torri eu hamodau trwydded, yn unol â chais y deisebydd; ac

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am wybodaeth am gynlluniau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, fel y cyfeirir atynt gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 


Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-753 Cryfhau'r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol ynghylch cyfleusterau prosesu pren gwastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i aros am farn y deisebydd cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-753 Cryfhau’r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i holi am eu hymateb i’r materion a godwyd mewn gohebiaeth flaenorol gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-753 Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn am ei barn am sylwadau diweddaraf y deisebydd cyn penderfynu ar sut i fwrw ymlaen a'r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-753 Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i rannu'r sylwadau a wnaed gan y deisebydd ac i ofyn am ymateb pellach iddynt.