Cyfarfodydd

P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a nododd bod Cafcass Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar ‘Anfodlonrwydd neu Wrthodiad Plant i Dreulio Amser gyda Rhiant’ ac wedi darparu hyfforddiant i'w ymarferwyr ar sut i gydnabod y mater hwn, yn ystod yr amser y mae'r ddeiseb wedi cael ei hystyried. Hefyd, mae’r Pwyllgor wedi trafod llawer o ohebiaeth ac wedi cynnal sesiynau tystiolaeth gyda’r deisebwyr, Cafcass Cymru a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Ar ôl cynnal pleidlais, barn mwyafrif y Pwyllgor oedd nad oedd llawer rhagor y gellir ei gyflawni yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ac y dylid cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae’n gyn-ddefnyddiwr gwasanaeth y deisebwyr ac wedi cyflogi’r prif ddeisebydd yn y gorffennol.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Cafcass Cymru i ofyn am eu hymateb i’r cynigion ar gyfer monitro’r gwaith o weithredu canllawiau Anfodlonrwydd neu Wrthodiad Plant i Dreulio Amser gyda Rhiant, gan gynnwys y dangosyddion a awgrymir, a wnaed gan y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ganllawiau ar arfer newydd a gyhoeddwyd gan Cafcass Cymru a chytunwyd i ysgrifennu’n ôl atynt i ofyn sut y maent yn bwriadu monitro dylanwad ac effaith y canllawiau a gofyn a fyddant yn darparu hyfforddiant i helpu ymarferwyr.

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n gyn-ddefnyddiwr gwasanaeth Families Need Fathers/Both Parents Matter Cymru ac mae wedi cyflogi'r prif ddeisebydd o'r blaen.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i dderbyn cynnig Cafcass Cymru o ddarparu copi o'i ganllawiau ymarfer yn dilyn ei lansio.

 


Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Bu'n ddefnyddiwr gwasanaethau Both Parents Matter ac yn wirfoddolwr dros y mudiad; ac

mae'r deisebydd yn gweithio iddo dros dro ar hyn o bryd.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan CAFCASS Cymru a chytunodd i:

 

·         ofyn barn y deisebydd ar y wybodaeth a gafwyd gan CAFCASS Cymru;

·         ysgrifennu yn ôl at CAFCASS Cymru i ofyn bod copi o'r canllawiau ymarfer yn cael ei roi i'r Pwyllgor pan fyddant ar eu ffurf derfynol, ac i amlinellu'r cyfleoedd hyfforddi a datblygu a ddarparwyd i ymarferwyr CAFCASS Cymru sy'n ymdrin ag ymddygiadau dieithrio; ac

·         ystyried gofyn am ragor o wybodaeth gan sefydliadau eraill yn y maes hwn.

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ynghyd â sylwadau'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Cafcass Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu canllawiau arfer newydd ac am fanylion sut yr ystyrir mabwysiadu dull Cafcass yn Lloegr, yn sgil y pryderon a fynegwyd gan y deisebwyr.

 

 


Cyfarfod: 28/06/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Dileuniad P-05-751 Cydnabod Achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a Dr Sue Whitcombe, a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am fwriad Llywodraeth Cymru a CAFCASS Cymru mewn perthynas ag:

    • adolygu llwybrau mewn perthynas â dieithrio plentyn oddi wrth riant yng ngoleuni'r gwaith sy'n cael ei wneud gan CAFCASS yn Lloegr; a
    • datblygu'r hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr ar y rheng flaen ynghylch nodi ymddygiadau sy'n gallu arwain at ddieithrio ac ymdrin â'r ymddygiadau hyn yn briodol; a'r
  • Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ofyn a ydynt wedi trafod ymchwilio i'r mater hwn.

 


Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Sesiwn Dystiolaeth - P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Huw Irranca-Davies AC, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru

Nigel Brown, Prif Weithredwr, Cafcass Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Albert Heaney, a Nigel Brown.

 


Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i ofyn am ragor o fanylion am fwriad Llywodraeth Cymru a CAFCASS Cymru yn y dyfodol i ddiwygio polisïau a llwybrau mewn perthynas â dieithrio plentyn oddi wrth riant, gan gynnwys hyfforddiant i staff; a

·         cheisio barn y deisebwyr am y dystiolaeth ddiweddar a gafodd y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 23/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn Dystiolaeth - P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

             Paul Apreda, Deisebydd

 

             Dr Sue Whitcombe, Seicolegydd Siartredig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i wahodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant a CAFCASS i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac ystyried casglu rhagor o dystiolaeth am y ddeiseb fel rhan o drafodaeth yn y dyfodol am flaenraglen waith y Pwyllgor.


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi ymwneud â’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) yn y gorffennol.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a, gan gytuno i wahodd y deisebydd i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor gyda'r bwriad o wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gyfarfod yn y dyfodol. 

 

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn y cwestiynau penodol a godwyd gan y deisebwyr.