Cyfarfodydd
NDM6260 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/04/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/04/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/04/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6260
David Melding (Canol De
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr hyn a elwir yn 'bedwerydd chwyldro
diwydiannol' yn cynnig heriau a chyfleoedd i economi Cymru.
2. Yn nodi bod risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru
dros y ddau ddegawd nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth.
3. Yn credu bod gan Gymru arbenigedd eisoes sy'n rhoi
mantais gystadleuol mewn diwydiannau twf sy'n dod i'r amlwg.
4. Yn cydnabod bod angen inni, er mwyn manteisio ar y
diwydiannau newydd hyn, ganolbwyntio ar ddulliau cyflym, hyblyg sy'n addasu'n
rhwydd i amgylchiadau sydd wedi newid.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar Strategaeth
Arloesi Cymru gyda'r bwriad o sicrhau ei bod yn adlewyrchu maint a chwmpas yr
amhariad rydym yn ei wynebu, ac yn ymrwymo i adolygiad strategol o gyfleoedd
mewn sectorau newydd twf uchel, lle mae gan Gymru'r potensial i sicrhau ei bod
yn dominyddu'r farchnad yn gynnar fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth
economaidd newydd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
15.52
NDM6260
David
Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr hyn a elwir yn 'bedwerydd chwyldro diwydiannol' yn cynnig
heriau a chyfleoedd i economi Cymru.
2. Yn nodi bod risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd
nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth.
3. Yn credu bod gan Gymru arbenigedd eisoes sy'n rhoi mantais gystadleuol
mewn diwydiannau twf sy'n dod i'r amlwg.
4. Yn cydnabod bod angen inni, er mwyn manteisio ar y diwydiannau newydd
hyn, ganolbwyntio ar ddulliau cyflym, hyblyg sy'n addasu'n rhwydd i
amgylchiadau sydd wedi newid.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar Strategaeth Arloesi Cymru
gyda'r bwriad o sicrhau ei bod yn adlewyrchu maint a chwmpas yr amhariad rydym
yn ei wynebu, ac yn ymrwymo i adolygiad strategol o gyfleoedd mewn sectorau
newydd twf uchel, lle mae gan Gymru'r potensial i sicrhau ei bod yn dominyddu'r
farchnad yn gynnar fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd
newydd.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.