Cyfarfodydd

P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-738 Deiseb gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodoodd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i gau’r ddeiseb yn awr gan mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â chynigion yn ymwneud â ffyrdd osogi ai peidio,

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gyngor Bro Morgannwg a'r deisebydd, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu yn ôl at Gyngor Bro Morgannwg i ofyn am:

o   ddiweddariad ar y sefyllfa o ran cyllid i gwblhau astudiaeth ail gam WelTAG o'r opsiynau trafnidiaeth yn Ninas Powys;

o   rhagor o wybodaeth gefndirol am y rhesymau dros y penderfyniad i beidio â symud ymlaen â gwaith pellach ar opsiwn y 'llwybr glas'.

·         ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chael wrth ddatblygu cynigion i fynd i'r afael â materion trafnidiaeth yn Ninas Powys.

 

 


Cyfarfod: 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor gohebiaeth gan Gyngor Bro Morgannwg, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bro Morgannwg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf pan fydd Cabinet y Cyngor wedi trafod canlyniadau'r adroddiad Cam 2 WelTAG.

 

 


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu llythyr pellach at Gyngor Bro Morgannwg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf pan benderfynir a ddylid bwrw ymlaen ag adroddiad Cam 2 Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ai peidio.

 


Cyfarfod: 13/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bro Morgannwg i ofyn barn y cyngor ar destun y ddeiseb a gofyn am ragor o wybodaeth am yr adolygiad o seilwaith trafnidiaeth yn y Fro.

 

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd David Melding y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi cefnogi'r ymgyrch ar gyfer ffordd osgoi Dinas Powys yn flaenorol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi helpu i ariannu'r astudiaeth gyfredol i mewn i rwydwaith trafnidiaeth Dinas Powys ac, os felly, a fyddai mewn sefyllfa i roi'r newyddion diweddaraf i'r Pwyllgor unwaith y bydd hyn wedi dod i ben.