Cyfarfodydd

NDM 6270 Dadl: Yr Adolygiad o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl: Yr Adolygiad o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol - Tynnwyd yn ôl

NDM6270 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 
1. Yn cytuno bod gan Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol swyddogaeth allweddol:

a) fel lleoedd gwerthfawr ar gyfer natur ac o safbwynt creu manteision cyhoeddus a phreifat drwy wahanol wasanaethau;

b) o safbwynt rheoli'n gynaliadwy adnoddau naturiol a chefnogi cymunedau gwledig llewyrchus.

2. Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, yn unol ag ysbryd 'bro', sydd wrth wraidd hunaniaeth cymuned a'r ffordd y mae llawer o bobl yng Nghymru'n mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i le penodol.