Cyfarfodydd

P-05-747 Cynnal Profion TB ar Wartheg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-747 Cynnal Profion TB ar Wartheg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail ei bod yn ymddangos bod y ddeiseb wedi cyrraedd ei nod. 

 

 

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-747 Cynnal Profion TB ar Wartheg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • anfon sylwadau'r deisebydd at Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig er mwyn iddi eu hystyried yn ei thrafodaethau;
  • anfon y ddeiseb at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig o ystyried ei ymchwiliad diweddar i'r mater hwn;
  • aros am y datganiad sydd ar ddod gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ei phenderfyniad; a
  • rhoi gwybod i'r deisebydd am yr ystyriaeth barhaus sy'n cael ei rhoi i'r mater o brofion TB ar gyfer gwartheg.

 

 


Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-747 Profi am TB mewn gwartheg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am sylwadau'r deisebydd i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig cyn ystyried sut i symud y ddeiseb yn ei blaen.