Cyfarfodydd
NDM 6255 Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 14/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 14/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu
NDM6255 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cytuno bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu
gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu:
a) creu rhagor o fentrau er mwyn cyflawni'r canlyniadau
gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac amcanion Symud Cymru Ymlaen
b) mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu.
Dogfen Ategol
Symud
Cymru Ymlaen
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1. David Rowlands (Dwyrain
De Cymru)
Dileu is-bwynt a)
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu at ddiwedd is-bwynt a):
'fel cynllun ad-dalu blaendal ar gyfer plastig, gwydr a
chaniau a gwahardd pecynnau polystyren.'
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
'sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy
gylchol yn seiliedig ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015.'
'Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015'
Gwelliant 4. David Rowlands (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder bod cyfraddau ailgylchu yn amrywio'n
sylweddol ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, yn rhannol oherwydd
gwahaniaethau mewn cynlluniau ailgylchu a chasglu gwastraff a ddefnyddir ym
mhob ardal awdurdod lleol;
Yn gresynu bod 36,000 o achosion o dipio anghyfreithlon
wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2015/16, gyda chostau o dros £2.1 miliwn i
awdurdodau lleol eu clirio;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau
lleol yn casglu gwastraff gweddilliol cartrefi bob pythefnos fan lleiaf, er
mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon.
Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Fel mai Cymru fydd y wlad ailgylchu orau yn y byd, mae
angen i awdurdodau lleol fabwysiadu arfer gorau er mwyn codi cyfraddau
ailgylchu, a dysgu gan awdurdodau fel Ceredigion, lle y cafodd 68.1 y cant o
wastraff trefol ei ailgylchu yn 2015/16.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM6255 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn cytuno bod Cymru ar y
blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu:
a) creu rhagor o fentrau
er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac
amcanion Symud Cymru Ymlaen
b) mai Cymru fydd y
wlad orau yn y byd am ailgylchu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. David
Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt a)
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
46 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu at ddiwedd is-bwynt a):
'fel cynllun ad-dalu
blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau a gwahardd pecynnau polystyren.'
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
14 |
3 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
'sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy
economi fwy gylchol yn seiliedig ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.'
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
1 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4. David
Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder bod
cyfraddau ailgylchu yn amrywio'n sylweddol ar draws ardaloedd awdurdodau lleol
yng Nghymru, yn rhannol oherwydd gwahaniaethau mewn cynlluniau ailgylchu a
chasglu gwastraff a ddefnyddir ym mhob ardal awdurdod lleol;
Yn gresynu bod 36,000 o
achosion o dipio anghyfreithlon wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2015/16, gyda
chostau o dros £2.1 miliwn i awdurdodau lleol eu clirio;
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn casglu gwastraff gweddilliol cartrefi
bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio
anghyfreithlon.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
36 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Fel mai Cymru fydd y wlad
ailgylchu orau yn y byd, mae angen i awdurdodau lleol fabwysiadu arfer gorau er
mwyn codi cyfraddau ailgylchu, a dysgu gan awdurdodau fel Ceredigion, lle y
cafodd 68.1 y cant o wastraff trefol ei ailgylchu yn 2015/16.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
28 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6255 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn cytuno bod Cymru ar y
blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu:
a) creu rhagor o fentrau
er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac
amcanion Symud Cymru Ymlaen fel cynllun ad-dalu blaendal ar gyfer plastig,
gwydr a chaniau a gwahardd pecynnau polystyren
b) mai Cymru fydd y
wlad orau yn y byd am ailgylchu
c)
sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy gylchol yn seiliedig
ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.