Cyfarfodydd
P-04-332 Manylion Gwariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-332 Manylion Gwariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth lafar a gafwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y ddeiseb hon.
O gofio datganiad y Gweinidog, nad yw’n fwriad ganddo ymyrryd ym mhrotocolau busnes awdurdodau lleol; bod system Rhyddid Gwybodaeth eisoes ar waith; a’r nifer fawr o gofnodion y byddai angen i awdurdodau lleol eu cyhoeddi, cytunodd y Pwyllgor y dylid cau’r ddeiseb.
Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-332 Manylion am wariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol
Dogfennau ategol:
- PET(4)-03-12 p15a Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 15 KB Gweld fel HTML (4/1) 5 KB
- PET(4)-03-12 p15b Gohebiaeth gan Gyngor Sir Fynwy - Saesneg yn unig, Eitem 4 PDF 302 KB
Cofnodion:
Bu’r Gweinidog yn
ateb cwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater a godir yn y ddeiseb, a chytunodd i
rannu manylion am yr effaith a’r buddion a brofwyd gan awdurdodau lleol sydd
wedi dechrau cyhoeddi manylion am eu gwariant.
Cyfarfod: 15/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-332 Manylion Gwariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol
Dogfennau ategol:
- PET(04)-06-11 p15a Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 201 KB Gweld fel HTML (3/1) 5 KB
- PET(04)-06-11 p15b Gohebiaeth y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Eitem 3 PDF 246 KB
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor:
I drafod y ddeiseb hon gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau pan fydd yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor ar 10 Ionawr;
I gomisiynu gwaith ymchwil ar y gost o gyhoeddi manylion gwariant sydd dros £500 gan awdurdodau lleol, ac a ellid cyfiawnhau’r gost o gyhoeddi’r wybodaeth hon os bydd gostyngiad yn nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a’r costau sy’n gysylltiedig ag ateb y ceisiadau hynny.
Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-332 Manylion Gwariant sydd dros £500 gan Awdurdodau Lleol
Dogfennau ategol:
- P-04-332 Manylion Gwariant sydd dros £500 gan Awdurdodau Lleol - Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 18 KB Gweld fel HTML (2/1) 3 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y mater hwn nes bod yr alwad am dystiolaeth yn dod i ben ar 3 Tachwedd.