Cyfarfodydd

P-04-329 Rheoli swn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar reoli sŵn o dyrbinau gwynt

NDM5036 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Reoli Swn Tyrbinau Gwynt, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 4 Gorffennaf 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.38

 

NDM5036 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Reoli Swn Tyrbinau Gwynt, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 4 Gorffennaf 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad i’w gyhoeddi, yn amodol ar wneud nifer o welliannau i’r argymhellion.

 

 

 


Cyfarfod: 01/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod – trafod ymweliadau â safleoedd a thystiolaeth a ddaeth i law ar 28 Chwefror

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynhyrchu adroddiad byr ar reoli sŵn o dyrbinau gwynt, ac i wneud cais i gael trafodaeth am y pwnc yn y Cyfarfod Llawn.


Cyfarfod: 26/04/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Deiseb P-04-329 rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod

HSC(4)-12-12 papur 6

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5 Nododd y Pwyllgor y papur.


Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod - Trafod yr Ymweliadau â'r Safle a'r Dystiolaeth a Gyflwynwyd ar 28 Chwefror

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gan nad oedd llawer o’r Aelodau a aeth ar ymweliadsafle â ffermydd gwynt yn Sir Gaerfyrddin gyda’r Pwyllgor, yn bresennol yn y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r eitem nes y byddai’r Aelodau’n bresennol a bod ymatebion i lythyrau’r Pwyllgor ar y mater wedi cael eu derbyn.


Cyfarfod: 28/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-329 Rheoli swn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod - sesiwn meic agored

Introduction from Grwp Blaengwen Action Group

Stephen Dubé, Chair of Grwp Blaengwen Action Group

Bleddyn Williams, Grwp Blaengwen Action Group Member

Caryl Harris, Grwp Blaengwen Action Group Member

Lynn Morris, Grwp Blaengwen Action Group Member

Terrence Neil, Grwp Blaengwen Action Group Member

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan aelodau o Grŵp Blaengwen ac aelodau eraill o’r gymuned.

 

Cytunodd y Pwyllgor:

I ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ogystal â’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn crynhoi pryderon y gymuned am effaith y sŵn o dyrbinau gwynt ac i amgáu copi o drawsgrifiad y cyfarfod;

I ysgrifennu at Statkraft i amlinellu pryderon y Pwyllgor ynghylch sut yr ymdrinnir â chwynion gan y gymuned leol; ei annog i ddatrys problemau ynghylch y sŵn sydd wedi effeithio ar bobl lleol; ac i ofyn iddynt gynnal cyfarfod cyhoeddus gyda’r gymuned leol i drafod y problemau;

Y bydd aelodau o’r Pwyllgor yn rhannu trawsgrifiad o’r sesiwn meic agored gydag Aelodau Cynulliad eraill yn eu grwpiau plaid;

I ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol i dynnu ei sylw at bryderon y gymuned ynghylch sŵn o ffermydd gwynt;

I ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i dynnu ei sylw at bryderon y gymuned ynghylch sŵn o ffermydd gwynt a’r ffaith y bu diffyg ymgynghori â’r gymuned mewn perthynas â TAN 8 ac na chafwyd adolygiad ohono;

I ddwyn prif bwyntiau’r drafodaeth i sylw pedwar Aelod Cymru o Senedd Ewrop;

I gyhoeddi nodyn ar gyfarfodydd y Pwyllgor gyda rhanddeiliaid ar 27 Chwefror.

 


Cyfarfod: 15/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-329 Rheoli swn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:

I drefnu ymweliad safle ar gyfer aelodau’r Pwyllgor a oedd yn dymuno hynny;

I drosglwyddo’r dystiolaeth a ddaeth i law i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w hystyried fel rhan o’i ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru;

I ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnal ymweliad safle ar y cyd â’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd;

I gomisiynu papur ymchwil ar y pwnc i’w ystyried yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-329 Rheoli swn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y mater hwn nes bod yr alwad am dystiolaeth yn dod i ben ar 3 Tachwedd.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd er mwyn gofyn iddo ystyried y ddeiseb fel rhan o’i ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio.

 

Bydd y tîm clercio yn anfon copi o gylch gorchwyl ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i bolisi ynni a chynllunio at aelodau’r Pwyllgor.