Cyfarfodydd

P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r diffyg cyswllt diweddar gan y deisebydd, a'r cadarnhad gan y Gweinidog na fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd na Chod Ymarfer yn ystod gweddill tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am yr amserlenni ar gyfer datblygu Cod Ymarfer ar gyfer Primatiaid cyn ystyried cymryd unrhyw gamau eraill; a

·         gofyn am bapur briffio cyfreithiol ynghylch y pŵer deddfwriaethol sydd gan Gymru yn y maes hwn.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn:

·         gofyn am ddiweddariad ar yr amserlenni ar gyfer datblygu cod ymarfer ar gyfer primatiaid a gedwir fel anifeiliaid anwes; a

·         mynegi cefnogaeth y Pwyllgor i'r galwadau am gyflwyno gwaharddiad llawn ar gadw primatiaid yn anifeiliaid anwes.

 

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Janet Finch-Saunders y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae hi wedi bod yn rhan o'r diwydiant anifeiliaid anwes o'r blaen.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn pryd y bydd y broses o ddiweddaru’r codau ymarfer presennol ar gyfer lles anifeiliaid, a datblygu codau ymarfer newydd yn ôl y gofyn, wedi'i chwblhau.

 

 

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn:

·         a yw hi o'r farn bod y gwahaniaeth rhwng trwyddedu a'r gyfundrefn reoleiddiol yng Nghymru a Lloegr yn peri risg i les anifeiliaid yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â'r fasnach anifeiliaid anwes egsotig; ac

·         a yw'n bwriadu ystyried rhinweddau mabwysiadu rhai neu bob un o'r gwahanol newidiadau polisi a wnaed yn Lloegr gan y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Lloegr) 2018.

 


Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Janet Finch Saunders y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Bu'n gweithio ym maes gwerthu anifeiliaid anwes yn y gorffennol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am bapur briffio ar y gwahaniaethau rhwng y rheoliadau ar werthu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru a Lloegr.

 

 


Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn:

·         am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw  drafodaeth a gafwyd ynghylch y datblygiadau yn Lloegr a’r Alban ers ei gohebiaeth flaenorol ym mis Chwefror 2018;

·         am safbwynt pendant Llywodraeth Cymru ynghylch a fyddai’n fuddiol gwahardd masnachu anifeiliaid egsotig ar hyn o bryd; ac

·         am restr o'r anifeiliaid y gellid eu diffinio’n anifeiliaid egsotig ac sydd felly'n anaddas i'w cadw fel anifeiliaid anwes.

 


Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan RSPCA Cymru a chytunodd i wneud y canlynol:

 

  • aros am farn y deisebydd am y wybodaeth a gyflwynwyd cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb; ac
  • wedi i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried canfyddiadau adolygiad trwyddedu Llywodraeth yr Alban a chynigion ar gyfer system newydd yn Lloegr, ystyried a ydynt am gymryd tystiolaeth ar y mater.

 

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gwnaeth Janet Finch- Saunders ddatgan y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae’n berchen ar macaw.

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a’r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at RSPCA Cymru i gael eu barn am y materion a godwyd gan y deisebydd ac ar unrhyw gynnydd a wnaed trwy’u cyfarfodydd â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwnc hwn.

 

 


Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunwyd i aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn y cwestiynau penodol a gynigiwyd gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i godi cwestiynau penodol a ofynnwyd gan y deisebydd, a gofyn bod y Pwyllgor yn cael gwybod am ganlyniad y drafodaeth yn y Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.