Cyfarfodydd

NDM 6246 Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-16

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

NDM6247 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1.  Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn bod menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n fenywod.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y rhywiau, bod 40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn fenywod, a chynyddu nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau cynghori cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng Nghymru yn 2015 yn 14.6 y cant.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod 29 y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill llai na'r cyflog byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o £8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y byddai cyfartaledd rhwng y rhywiau yng Nghymru yn gwella pe bai gwersi perthynas iach yn dod yn orfodol mewn ysgolion.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.07

NDM6247 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1.  Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n fenywod.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y rhywiau, bod 40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn fenywod, a chynyddu nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau cynghori cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng Nghymru yn 2015 yn 14.6 y cant.

Derbyniwyd Gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod 29 y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill llai na'r cyflog byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o £8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016.

Derbyniwyd Gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant sy’n weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y byddai cyfartaledd rhwng y rhywiau yng Nghymru yn gwella pe bai gwersi perthynas iach yn dod yn orfodol mewn ysgolion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

33

53

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM6247 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

2.Yn nodi bod menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n fenywod.

3.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y rhywiau, bod 40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn fenywod, a chynyddu nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau cynghori cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

4. Yn gresynu bod y bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng Nghymru yn 2015 yn 14.6 y cant.

5. Yn gresynu bod 29 y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill llai na'r cyflog byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o £8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

1

0

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-16

NDM6246 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2015-16.

Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2017.

Dogfen Ategol
Adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2015-16

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod ansawdd ac amrywioldeb addysgu yn parhau i fod yn un o agweddau gwannaf y ddarpariaeth ar draws sectorau yn system addysg Cymru.

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw'r system addysg yn diwallu anghenion pob dysgwr o hyd.

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau, a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli fel mater o frys.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.25

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6246 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2015-16.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod ansawdd ac amrywioldeb addysgu yn parhau i fod yn un o agweddau gwannaf y ddarpariaeth ar draws sectorau yn system addysg Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw'r system addysg yn diwallu anghenion pob dysgwr o hyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau, a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli fel mater o frys.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM6246 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2015-16.

2. Yn nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau, a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth.

3. Yn gresynu at berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli fel mater o frys.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.