Cyfarfodydd

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2016-17

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/10/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN1 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar Alldro 2016-17 - 30 Medi 2017

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2016-17

NDM6236 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 7 Chwefror 2017.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfen Ategol
Yr Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.42

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6236 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 7 Chwefror 2017.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

26

53

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 01/03/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried unrhyw newidiadau ychwanegol dros e-bost.

 


Cyfarfod: 16/02/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 16/02/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: Sesiwn dystiolaeth

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Gawain Evans - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Matthew Denham Jones - Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol, Llywodraeth Cymru

 

Papur 1 - Cynnig y Gyllideb ar gyfer Ail Gyllideb Atodol 2016-17

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth Cymru ar yr Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2016-17.

 

3.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y ffordd y mae system benthyciadau myfyrwyr yn gweithio.