Cyfarfodydd
NDM6228 Dadl: “Sicrhau Dyfodol Cymru”: Trefniadau pontio ar gyfer symud o aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 07/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: “Diogelu Dyfodol Cymru”: Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop
NDM6228
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
- Yn nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi
pennu cynllun manwl eto i ddangos sut y dylai'r DU ymadael â'r Undeb
Ewropeaidd a sut berthynas fydd rhyngddi a gweddill Ewrop yn y dyfodol.
- Yn cydnabod canlyniad y refferendwm am
aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
- Yn croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn,
Diogelu Dyfodol Cymru.
- Yn cymeradwyo'r blaenoriaethau sy'n cael
eu nodi ynddo a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddisgrifio.
- Yn credu y dylai Llywodraeth y DU lwyr
barchu blaenoriaethau Cymru, fel y'u nodir yn y Papur Gwyn, o fewn
safbwynt negodi'r DU yn gyfan, ac yn cefnogi'r ymdrechion parhaus gan
Lywodraeth Cymru drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddarbwyllo Llywodraeth
y DU am fanteision y dull gweithredu hwn.
- Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio
Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.
- Yn ailddatgan pwysigrwydd hanfodol
Confensiwn Sewel, ac yn credu y dylai hyn ei gwneud yn ofynnol i
Lywodraeth y DU ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio'u
cymeradwyaeth i'w safbwynt negodi, cyn ac yn ystod y negodiadau, a'u
cymeradwyaeth i unrhyw gytundeb terfynol â'r Undeb Ewropeaidd.
8.
Yn
mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei datblygu er budd pennaf ein
heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei llunio o amgylch buddiannau gwleidyddol cul.
Dogfen Ategol
Diogelu Dyfodol Cymru
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
1. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro):
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
2.
Yn croesawu 12 o amcanion negodi Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb
Ewropeaidd a chyhoeddi ei Phapur Gwyn.
3.
Yn nodi cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.
4.
Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio tanio Erthygl 50 erbyn diwedd mis
Mawrth.
5.
Yn cydnabod cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac
yn croesawu ymrwymiad parhaus Prif Weinidog y DU i ymgysylltu â'r
gweinyddiaethau datganoledig a sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r Deyrnas
Unedig.
'UK
Government White Paper' (Saesneg yn
unig)
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gwrthwynebu tanio Erthygl 50 heb sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd Cymru yn
parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl Ewropeaidd, o gofio pa mor bwysig i
Gymru yw cymryd rhan mewn marchnad sengl.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.22
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6228
Jane Hutt (Vale of Glamorgan)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu
cynllun manwl eto i ddangos sut y dylai'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a sut
berthynas fydd rhyngddi a gweddill Ewrop yn y dyfodol.
2. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm am
aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn, Diogelu
Dyfodol Cymru.
4. Yn cymeradwyo'r blaenoriaethau sy'n cael eu
nodi ynddo a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddisgrifio.
5. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU lwyr barchu
blaenoriaethau Cymru, fel y'u nodir yn y Papur Gwyn, o fewn safbwynt negodi'r
DU yn gyfan, ac yn cefnogi'r ymdrechion parhaus gan Lywodraeth Cymru drwy'r
Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddarbwyllo Llywodraeth y DU am fanteision y dull
gweithredu hwn.
6. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio
Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.
7. Yn ailddatgan pwysigrwydd hanfodol Confensiwn
Sewel, ac yn credu y dylai hyn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU
ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio'u cymeradwyaeth i'w
safbwynt negodi, cyn ac yn ystod y negodiadau, a'u cymeradwyaeth i unrhyw
gytundeb terfynol â'r Undeb Ewropeaidd.
8. Yn
mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei datblygu er budd pennaf ein
heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei llunio o amgylch buddiannau gwleidyddol cul.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar aelodaeth
y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn croesawu 12 o amcanion negodi Llywodraeth
y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd a chyhoeddi ei Phapur Gwyn.
3. Yn nodi cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth
Cymru.
4. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio
tanio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.
5. Yn cydnabod cyfarfod y Cyd-bwyllgor
Gweinidogion a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac yn croesawu ymrwymiad parhaus Prif
Weinidog y DU i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig a sicrhau'r fargen
orau i Gymru a'r Deyrnas Unedig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
38 |
55 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gwrthwynebu tanio Erthygl 50 heb sicrwydd gan
Lywodraeth y DU y bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl
Ewropeaidd, o gofio pa mor bwysig i Gymru yw cymryd rhan mewn marchnad sengl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
46 |
56 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6228
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu
cynllun manwl eto i ddangos sut y dylai'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a sut
berthynas fydd rhyngddi a gweddill Ewrop yn y dyfodol.
2. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm am
aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn, Diogelu
Dyfodol Cymru.
4. Yn cymeradwyo'r blaenoriaethau sy'n cael eu
nodi ynddo a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddisgrifio.
5. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU lwyr barchu
blaenoriaethau Cymru, fel y'u nodir yn y Papur Gwyn, o fewn safbwynt negodi'r
DU yn gyfan, ac yn cefnogi'r ymdrechion parhaus gan Lywodraeth Cymru drwy'r
Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddarbwyllo Llywodraeth y DU am fanteision y dull
gweithredu hwn.
6. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio
Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.
7. Yn ailddatgan pwysigrwydd hanfodol Confensiwn
Sewel, ac yn credu y dylai hyn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU
ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio'u cymeradwyaeth i'w
safbwynt negodi, cyn ac yn ystod y negodiadau, a'u cymeradwyaeth i unrhyw
gytundeb terfynol â'r Undeb Ewropeaidd.
8. Yn
mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei datblygu er budd pennaf ein
heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei llunio o amgylch buddiannau gwleidyddol cul.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
18 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio.