Cyfarfodydd

P-05-742 Peidiwch â Gadael i Forsythia Gau!

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith nad yw'n ymddangos yn bosibl bellach i symud y ddeiseb hon ymlaen oherwydd y diffyg cysylltiad gan y deisebwyr ac effaith diwedd cyllid Cymunedau'n Gyntaf.

 

 


Cyfarfod: 23/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth bresennol yng Nghanolfan Ieuenctid Forsythia ac a ydynt wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda'r Cyngor ynghylch dyfodol y Ganolfan.

 

 


Cyfarfod: 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-742 Peidiwch â Gadael i Forsythia Gau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Ymddiriedolaeth Ddatblygu 3G i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol i bobl ifanc yng Nghanolfan Ieuenctid Forsythia.

 


Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

 

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn am ddiweddariad ar ddatblygiad dull newydd Llywodraeth Cymru i greu cymunedau gwydn; a

·         rheolwyr y ganolfan i ofyn am gymhariaeth o ran sut bydd y gwasanaeth a ddarperir yn wahanol yn dilyn y newidiadau.

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Peidiwch â gadael i Forsythia gau!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

 

·         y Prif Gorff Cyflenwi Cymunedau yn Gyntaf sy'n gyfrifol am Ganolfan Ieuenctid Forsythia i ofyn am wybodaeth ynghylch y cymorth a fydd ar gael yn y dyfodol ar gyfer y grŵp, o ystyried llwyddiant ymddangosiadol y gwaith a wnaed;

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, er mwyn rhannu'r fideo a'r wybodaeth a dderbyniwyd gan Ganolfan Ieuenctid Forsythia, a mynegi pryder ynghylch effaith a allai colli prosiectau llwyddiannus fel hyn ei chael ar ardaloedd lleol;

·         Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn a oes llwybr i gefnogi prosiectau megis Canolfan Ieuenctid Forsythia drwy waith ieuenctid; 

·         Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i rannu'r fideo a'r wybodaeth a dderbyniwyd gan Ganolfan Ieuenctid Forsythia a gofyn am eu sylwadau; a

·         Canolfan Ieuenctid Forsythia i ddiolch iddynt am ddarparu'r fideo i'r Aelodau yn mynegi eu pryderon ac am fod yn yr oriel gyhoeddus ar gyfer y cyfarfod.

 

 

 


Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn cadarnhau y bydd Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei ddileu'n raddol, cytunwyd y dylid ysgrifennu ato i ofyn:

 

·         sut y mae'n bwriadu cefnogi cynlluniau a phrosiectau llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf yn y dyfodol; ac

·         a fydd parhau i fuddsoddi yn y rhaglenni Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf yn  cefnogi cynaliadwyedd canolfannau ieuenctid fel Forsythia.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ystyried cynnwys datganiad sydd i ddod gan y Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ddyfodol darpariaeth gwaith ieuenctid.