Cyfarfodydd

P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb o ystyried y camau diweddar ar y mater hwn a diffyg ymateb diweddar gan y deisebydd

 

 


Cyfarfod: 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y byddai'n rhoi cynllun rhyddhad ardrethi parhaol ar waith ar gyfer busnesau bach o 1 Ebrill 2018, cytunwyd i roi cyfle pellach i'r deisebydd roi sylwadau gerbron y cyfarfod nesaf ar 27 Chwefror ac i gau'r ddeiseb hon os na cheir ymateb.

 

 


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd, gan gytuno i:

 

·         ofyn am farn y deisebydd ar y cynigion a geir yn yr ymgynghoriad cyfredol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach parhaol newydd; ac

·         annog y deisebydd i ymateb yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymgynghoriad hefyd. 

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am farn y deisebwr am yr ohebiaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol cyn cytuno ar y cam nesaf mewn perthynas â'r ddeiseb.

 

 

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-740 Deiseb i Warchod ein Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am atebion i’r cwestiynau penodol a godwyd gan y deisebydd.