Cyfarfodydd

P-05-736 Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-736 Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y camau sy'n ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghynllun Cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022, fel yr argymhellir yn adroddiad y Pwyllgor ar y ddeiseb hon. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor, ac wedi gwneud nifer o ymrwymiadau i wella mynediad at ofal mewn argyfwng, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am ei hymrwymiad i wella gwasanaethau.

 


Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar P-05-736 Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor a chytunwyd i aros am i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl – cynllun cyflawni 2019 i 2022 cyn penderfynu ar eu camau nesaf.

 

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar gynnwys rhai argymhellion ychwanegol.

 

 

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Trafod yr adroddiad drafft


Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i lunio adroddiad sy'n canolbwyntio ar fynediad at wasanaethau iechyd meddwl mewn argyfwng, ac i ddefnyddio'r adroddiad hwn fel sail ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Mind Cymru a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn nifer o gwestiynau yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddaeth i law, gan gynnwys:

    • disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag argaeledd gwasanaethau argyfwng ledled Cymru sydd ar gael bob awr o bob dydd;
    • data ar ba mor hir y mae cleifion yn aros am fynediad at therapïau seicolegol ar hyn o bryd; a
    • pryd y caiff adroddiad ar gynnydd o dan y cynllun cyflawni: Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ei gyhoeddi.

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Crynodeb o Dystiolaeth - P-05-736 Gwneud Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn Fwy Hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor grynodeb o'r dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth gan sefydliadau iechyd meddwl trydydd sector ynghylch y materion a nodwyd yn y ddeiseb a'r dystiolaeth a ddaeth i law hyd yma.

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ddiweddar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a gofynnodd am grynodeb o'r dystiolaeth a dderbyniwyd hyd yma, cyn ystyried pa gamau pellach i'w cymryd. 

 

 


Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn dystiolaeth - P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

·         Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Liz Davies - Uwch Swyddog Meddygol

·         Ainsley Bladon - Arweinydd Strategaeth Iechyd Meddwl

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Liz Davies ac Ainsley Bladon, Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r dystiolaeth a dderbyniwyd ar P-05-736 i Wneud Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn fwy Hygyrch a chytunodd i geisio ymateb y deisebydd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, cyn cytuno ar ba gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafodaeth o sesiynau tystiolaeth blaenorol


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gynharach a chytunodd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn dystiolaeth ar gyfer P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Laura Williams, Deisebydd

 

Alun Thomas, Prif Weithredwr - Hafal

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y deisebydd, Laura Williams, ac Alun Thomas, Prif Weithredwr Hafal.

 

 


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i:

 

·         wahodd y deisebydd i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o dystiolaeth am ei deiseb ochr yn ochr â Hafal a'r deisebydd ar gyfer P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion; ac

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i roi gwybod iddo am y sesiwn dystiolaeth sydd ar ddod a nodi pa mor siomedig oedd y deisebydd â'i ymateb diweddaraf.   

 

 


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i dynnu sylw at y pryderon a chynigion ar gyfer gwella a wnaed gan y deisebydd a Hafal, ac i ofyn am ragor o wybodaeth am y cynlluniau i wella ymatebolrwydd gwasanaethau.

 

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-736 Darparu gwasanaethau iechyd meddwl mwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at elusennau sy'n cynorthwyo pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i ofyn am eu barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb a'r wybodaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet.