Cyfarfodydd

NDM6207 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6207 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o gymorth i fusnesau bach yr effeithir arnynt gan y broses ailbrisio ardrethi annomestig yn 2017, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am y £10 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn

 
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod:

a) bod ardrethi annomestig yn cyfrannu £1biliwn at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru;

b) y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu mwy na £200 miliwn o gymorth i drethdalwyr yng Nghymru yn 2017-18 i dalu ardrethi annomestig; a

c) bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn cynnwys cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol newydd sy'n werth £10 miliwn i helpu busnesau yr effeithir arnynt gan y broses ailbrisio a gynhaliwyd yn 2017 gan y corff annibynnol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a chynllun rhyddhad arbennig newydd wedi'i dargedu, sy'n werth £10 miliwn, i roi cymorth ychwanegol i'r stryd fawr.

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol]

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol gwerth £10 miliwn sydd wedi'i sicrhau gan Blaid Cymru fel rhan o'r trafodaethau ynghylch cyllideb 2017/18.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.03

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6207 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o gymorth i fusnesau bach yr effeithir arnynt gan y broses ailbrisio ardrethi annomestig yn 2017, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am y £10 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

35

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod:

a) bod ardrethi annomestig yn cyfrannu £1 biliwn at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru;

b) y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu mwy na £200 miliwn o gymorth i drethdalwyr yng Nghymru yn 2017-18 i dalu ardrethi annomestig; a

c) bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn cynnwys cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol newydd sy'n werth £10 miliwn i helpu busnesau yr effeithir arnynt gan y broses ailbrisio a gynhaliwyd yn 2017 gan y corff annibynnol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a chynllun rhyddhad arbennig newydd wedi'i dargedu, sy'n werth £10 miliwn, i roi cymorth ychwanegol i'r stryd fawr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

26

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6207 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod:

a) bod ardrethi annomestig yn cyfrannu £1 biliwn at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru;

b) y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu mwy na £200 miliwn o gymorth i drethdalwyr yng Nghymru yn 2017-18 i dalu ardrethi annomestig; a

c) bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn cynnwys cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol newydd sy'n werth £10 miliwn i helpu busnesau yr effeithir arnynt gan y broses ailbrisio a gynhaliwyd yn 2017 gan y corff annibynnol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a chynllun rhyddhad arbennig newydd wedi'i dargedu, sy'n werth £10 miliwn, i roi cymorth ychwanegol i'r stryd fawr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

18

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.