Cyfarfodydd

NDM6196 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6196 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, yng ngoleuni Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, bod lefelau gordewdra yng Nghymru ar gynnydd.

2. Yn mynegi pryder bod cymaint â 59 y cant o oedolion wedi cael eu cofnodi i fod dros eu pwysau neu'n ordew, fel y nodwyd yn yr Arolwg Iechyd Cymru diweddar, a bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn ordew neu dros eu pwysau, fel y cofnodir yn Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg cydlyniant rhwng ei mentrau iechyd cyhoeddus, a thoriadau i gyllid llywodraeth leol, sy'n rhwystro defnydd effeithiol o'r rhaglenni hyn.

'Arolwg Iechyd Cymru'

'Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol'

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi:

a) a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew yng Nghymru ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd hynny'n gostwng;

b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59 y cant o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2 y cant o blant dros eu pwysau neu'n ordew; ac

c) bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio - gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol - i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach.

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2, yn cael ei dad-ddethol]

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod trethi ar gynnyrch afiach a rheolau'n ymwneud â hysbysebu cynnyrch o'r fath yn faterion nad ydynt wedi'u datganoli, ac yn gresynu bod llywodraethau dilynol y DU wedi methu â defnyddio'r pwerau hyn i fynd i'r afael â gordewdra.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.42

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6196 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, yng ngoleuni Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, bod lefelau gordewdra yng Nghymru ar gynnydd.

2. Yn mynegi pryder bod cymaint â 59 y cant o oedolion wedi cael eu cofnodi i fod dros eu pwysau neu'n ordew, fel y nodwyd yn yr Arolwg Iechyd Cymru diweddar, a bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn ordew neu dros eu pwysau, fel y cofnodir yn Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg cydlyniant rhwng ei mentrau iechyd cyhoeddus, a thoriadau i gyllid llywodraeth leol, sy'n rhwystro defnydd effeithiol o'r rhaglenni hyn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

34

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi:

a) a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew yng Nghymru ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd hynny'n gostwng;

b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59% o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2% o blant dros eu pwysau neu'n ordew; a

c) bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio - gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol - i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

24

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6196 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew yng Nghymru ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd hynny'n gostwng;

b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59% o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2% o blant dros eu pwysau neu'n ordew; a

c) bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio - gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol - i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

12

5

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.