Cyfarfodydd
NDM6215 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 25/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 25/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6215 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r tueddiad rhyngwladol i werthuso dinasoedd ar
feini prawf sy'n ymwneud â'r gallu i fyw ynddynt, pa mor wyrdd ydynt a'u
cynaliadwyedd.
2. Yn credu bod dinasoedd ac ardaloedd trefol yn sbardun
allweddol ar gyfer gwydnwch a ffyniant economaidd.
3. Yn cymeradwyo gwerth yr amcanion a'r strategaethau
canlynol o ran hybu adnewyddu ac adfywio trefol:
a) mynediad at ofod glân ac agored:
b) argaeledd tai fforddiadwy;
c) rheoli traffig yn effeithiol a darparu trafnidiaeth
gyhoeddus o safon uchel;
d) datblygu llwybrau trafnidiaeth llesol, gan gynnwys
ailddynodi rhai llwybrau ar gyfer beicio a cherdded;
e) safonau uchel o ran ansawdd yr aer;
f) buddsoddi yn ansawdd dylunio adeiladau cyhoeddus a
nodweddiadol;
g) cynnwys dinasyddion mewn cynlluniau gwella amwynderau,
o ran dinas gyfan ac ar sail cymdogaeth; a
h) bod y cysyniad o ddinas-ranbarth yn ganolog i adfywio
ardaloedd cefnwlad, fel Cymoedd y De.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru yn Symud Cymru Ymlaen
ar gyfer datblygu economi gryfach a thecach ac yn cydnabod pwysigrwydd y
mesurau i ddatblygu economïau rhanbarthol cynaliadwy sy'n gwasanaethu pob
cymuned ledled Cymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM6215 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r tueddiad
rhyngwladol i werthuso dinasoedd ar feini prawf sy'n ymwneud â'r gallu i fyw
ynddynt, pa mor wyrdd ydynt a'u cynaliadwyedd.
2. Yn credu bod
dinasoedd ac ardaloedd trefol yn sbardun allweddol ar gyfer gwydnwch a ffyniant
economaidd.
3. Yn cymeradwyo gwerth
yr amcanion a'r strategaethau canlynol o ran hybu adnewyddu ac adfywio trefol:
a) mynediad at ofod glân
ac agored:
b) argaeledd tai
fforddiadwy;
c) rheoli traffig yn
effeithiol a darparu trafnidiaeth gyhoeddus o safon uchel;
d) datblygu llwybrau
trafnidiaeth llesol, gan gynnwys ailddynodi rhai llwybrau ar gyfer beicio a
cherdded;
e) safonau uchel o ran
ansawdd yr aer;
f) buddsoddi yn ansawdd
dylunio adeiladau cyhoeddus a nodweddiadol;
g) cynnwys dinasyddion
mewn cynlluniau gwella amwynderau, o ran dinas gyfan ac ar sail cymdogaeth; a
h) bod y cysyniad o
ddinas-ranbarth yn ganolog i adfywio ardaloedd cefnwlad, fel Cymoedd y De.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.