Cyfarfodydd
NDM6205 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 18/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 18/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 18/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6205 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r pryder am y casgliadau sbwriel tair a phedair wythnos a
gynigir gan rai awdurdodau lleol ledled Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynghorau yn casglu
gwastraff gweddilliol bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y
cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn
cynnig casglu biniau bob tair wythnos neu bob pedair wythnos.
2. Yn nodi targed Llywodraeth Cymru yn 'Tuag at Ddyfodol
Diwastraff' y bydd pob sector yng Nghymru yn ailgylchu o leiaf 70 y cant o'i
wastraff erbyn 2025.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu
faint o wastraff y maent yn ei ailgylchu drwy wahardd deunydd pacio Styrofoam.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu
faint o wastraff y maent yn ei ailgylchu drwy gyflwyno cynllun dychwelyd
blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
dad-ddethol]
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi llwyddiant Cymru wrth ailgylchu 60 y cant o'i
gwastraff yn 2015/16 a chyflawni'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'r 4ydd
uchaf yn Ewrop.
2. Yn derbyn ymreolaeth awdurdodau lleol, yn ysbryd
lleoliaeth, i benderfynu pa mor aml y dylent gasglu gwastraff gweddilliol tra'n
cydnabod nad yw casgliadau gwastraff llai aml yn arwain at ragor o dipio
anghyfreithlon nac yn peryglu iechyd y cyhoedd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.02
Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Llywydd
am 17.11 oherwydd i doriad trydan effeithio ar y Siambr. Cafodd y gloch ei
chanu 2 funud cyn ailgynnull am 17.41.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6205 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi'r pryder am y casgliadau sbwriel tair a phedair wythnos a gynigir gan
rai awdurdodau lleol ledled Cymru.
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynghorau yn casglu gwastraff
gweddilliol bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal
tipio anghyfreithlon.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
35 |
53 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
1.
Yn nodi bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig casglu biniau bob tair
wythnos neu bob pedair wythnos
2.
Yn nodi targed Llywodraeth Cymru yn 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' y bydd pob
sector yng Nghymru yn ailgylchu o leiaf 70 y cant o'i wastraff erbyn 2025
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu faint o wastraff y maent
yn ei ailgylchu drwy wahardd deunydd pacio Styrofoam
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu faint o wastraff y maent
yn ei ailgylchu drwy gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer plastig,
gwydr a chaniau
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
45 |
53 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi llwyddiant Cymru wrth ailgylchu 60 y cant o'i gwastraff yn 2015/16 a
chyflawni'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'r 4ydd uchaf yn Ewrop.
2.
Yn derbyn ymreolaeth awdurdodau lleol, yn ysbryd lleoliaeth, i benderfynu pa
mor aml y dylent gasglu gwastraff gweddilliol tra'n cydnabod nad yw casgliadau
gwastraff llai aml yn arwain at ragor o dipio anghyfreithlon nac yn peryglu
iechyd y cyhoedd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
18 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM6205 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi llwyddiant Cymru wrth ailgylchu 60 y cant o'i gwastraff yn 2015/16 a
chyflawni'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'r 4ydd uchaf yn Ewrop.
2.
Yn derbyn ymreolaeth awdurdodau lleol, yn ysbryd lleoliaeth, i benderfynu pa
mor aml y dylent gasglu gwastraff gweddilliol tra'n cydnabod nad yw casgliadau
gwastraff llai aml yn arwain at ragor o dipio anghyfreithlon nac yn peryglu
iechyd y cyhoedd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
18 |
53 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.