Cyfarfodydd

NDM6205 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6205 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r pryder am y casgliadau sbwriel tair a phedair wythnos a gynigir gan rai awdurdodau lleol ledled Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynghorau yn casglu gwastraff gweddilliol bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig casglu biniau bob tair wythnos neu bob pedair wythnos.

2. Yn nodi targed Llywodraeth Cymru yn 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' y bydd pob sector yng Nghymru yn ailgylchu o leiaf 70 y cant o'i wastraff erbyn 2025.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu faint o wastraff y maent yn ei ailgylchu drwy wahardd deunydd pacio Styrofoam.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu faint o wastraff y maent yn ei ailgylchu drwy gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau.

'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol]

Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi llwyddiant Cymru wrth ailgylchu 60 y cant o'i gwastraff yn 2015/16 a chyflawni'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'r 4ydd uchaf yn Ewrop.

2. Yn derbyn ymreolaeth awdurdodau lleol, yn ysbryd lleoliaeth, i benderfynu pa mor aml y dylent gasglu gwastraff gweddilliol tra'n cydnabod nad yw casgliadau gwastraff llai aml yn arwain at ragor o dipio anghyfreithlon nac yn peryglu iechyd y cyhoedd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.02

Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Llywydd am 17.11 oherwydd i doriad trydan effeithio ar y Siambr. Cafodd y gloch ei chanu 2 funud cyn ailgynnull am 17.41.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6205 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r pryder am y casgliadau sbwriel tair a phedair wythnos a gynigir gan rai awdurdodau lleol ledled Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynghorau yn casglu gwastraff gweddilliol bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

35

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig casglu biniau bob tair wythnos neu bob pedair wythnos

2. Yn nodi targed Llywodraeth Cymru yn 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' y bydd pob sector yng Nghymru yn ailgylchu o leiaf 70 y cant o'i wastraff erbyn 2025

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu faint o wastraff y maent yn ei ailgylchu drwy wahardd deunydd pacio Styrofoam

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu faint o wastraff y maent yn ei ailgylchu drwy gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

45

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi llwyddiant Cymru wrth ailgylchu 60 y cant o'i gwastraff yn 2015/16 a chyflawni'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'r 4ydd uchaf yn Ewrop.

2. Yn derbyn ymreolaeth awdurdodau lleol, yn ysbryd lleoliaeth, i benderfynu pa mor aml y dylent gasglu gwastraff gweddilliol tra'n cydnabod nad yw casgliadau gwastraff llai aml yn arwain at ragor o dipio anghyfreithlon nac yn peryglu iechyd y cyhoedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

18

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6205 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi llwyddiant Cymru wrth ailgylchu 60 y cant o'i gwastraff yn 2015/16 a chyflawni'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'r 4ydd uchaf yn Ewrop.

2. Yn derbyn ymreolaeth awdurdodau lleol, yn ysbryd lleoliaeth, i benderfynu pa mor aml y dylent gasglu gwastraff gweddilliol tra'n cydnabod nad yw casgliadau gwastraff llai aml yn arwain at ragor o dipio anghyfreithlon nac yn peryglu iechyd y cyhoedd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

18

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.