Cyfarfodydd

NDM6198 - Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl Plaid Cymru

NDM6198 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw sector addysg uwch Cymru o ran cynnig cyfleoedd pwysig i bobl Cymru, a sicrhau manteision economaidd sylweddol i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

 

2. Yn credu bod sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yn hanfodol ar gyfer Cymru ffyniannus.

 

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd sector addysg uwch Cymru ar gyfer y dyfodol.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:

 

a) diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr UE ar gyfer ymchwil ac addysg uwch neu ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle;

 

b) sicrhau bod prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid staff a myfyrwyr Erasmus+, a chefnogi rhagor o gydweithio rhyngwladol a chyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a staff;

 

c) sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy'n gweithio ym mhrifysgolion Cymru;

 

d) galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl astudio; ac

 

e) dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y DU.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau a), b), c) a d) a rhoi yn eu lle:

'a) manteisio i'r eithaf ar ffynonellau rhyngwladol o ran cyllid ymchwil ar gyfer prifysgolion Cymru;

b) cefnogi mentrau cydweithredu sy'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff prifysgolion Cymru ymgysylltu â rhaglenni cyfnewid rhyngwladol;

c) archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu trefniadau dwyochrog â'r UE i fynd i'r afael â phryderon ynghylch statws gwladolion yr UE sy'n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru;

d) parhau i gynnig cyfleoedd i raddedigion rhyngwladol gael fisas ar ôl eu hastudiaethau i'w galluogi i weithio a sefydlu busnesau yn y DU;’

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6198 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw sector addysg uwch Cymru o ran cynnig cyfleoedd pwysig i bobl Cymru, a sicrhau manteision economaidd sylweddol i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

2. Yn credu bod sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yn hanfodol ar gyfer Cymru ffyniannus.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd sector addysg uwch Cymru ar gyfer y dyfodol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:

a) diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr UE ar gyfer ymchwil ac addysg uwch neu ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle;

b) sicrhau bod prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid staff a myfyrwyr Erasmus+, a chefnogi rhagor o gydweithio rhyngwladol a chyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a staff;

c) sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy'n gweithio ym mhrifysgolion Cymru;

d) galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl astudio; ac

e) dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y DU.

o dargedau symud net y DU.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

16

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.