Cyfarfodydd

NDM6195- Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6195 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf.

2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”, ac; “Mae byrddau iechyd yn gweithio mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid, diffyg meddygon a cheisio ei dal hi ymhob man.”

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws o ran sut y mae ei chynlluniau ar gyfer 2016/17, ynghyd â chynlluniau Byrddau Iechyd Cymru, yn perfformio o gymharu â’r sefyllfa bresennol ledled GIG Cymru.

'Datganiad: Parodrwydd ar gyfer y gaeaf'

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17: Ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon (Cymru)’

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Dileu popeth ar ôl "pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol" ym mhwynt 2 a rhoi yn ei le:

3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf.

4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o'r radd flaenaf i gleifion.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru.

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 3, yn cael ei dad-ddethol]

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny:

"Yn nodi bod gwasanaethau gofal cymdeithasol, hefyd, yn gweithredu mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid a cheisio ei dal hi ym mhob man, a bod y gwasanaethau hyn hefyd yn elfen bwysig o barodrwydd ar gyfer y gaeaf."
 
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ym mhwynt 3, ar ôl "Byrddau Iechyd Cymru", rhoi "a gwasanaethau gofal cymdeithasol".

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6195 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf.

2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”, ac; “Mae byrddau iechyd yn gweithio mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid, diffyg meddygon a cheisio ei dal hi ymhob man.”

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws o ran sut y mae ei chynlluniau ar gyfer 2016/17, ynghyd â chynlluniau Byrddau Iechyd Cymru, yn perfformio o gymharu â’r sefyllfa bresennol ledled GIG Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

34

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Dileu popeth ar ôl "pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol" ym mhwynt 2 a rhoi yn ei le:

3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf.

4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o'r radd flaenaf i gleifion.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

1

23

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny:

"Yn nodi bod gwasanaethau gofal cymdeithasol, hefyd, yn gweithredu mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid a cheisio ei dal hi ym mhob man, a bod y gwasanaethau hyn hefyd yn elfen bwysig o barodrwydd ar gyfer y gaeaf."

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

32

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6195 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf.

2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”.

3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf.

4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o'r radd flaenaf i gleifion.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

11

4

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.