Cyfarfodydd
P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiant Gosod ar Denantiaid
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiant Gosod ar Denantiaid
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 115 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- 25.09.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 23 KB Gweld fel HTML (3/2) 3 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod sylwadau pellach gan y deisebydd
a chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar y
mater hwn a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.
Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 115 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- 20.06.17 Gohebiaeth – gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 86 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gymunedau a Phlant a chytunodd i aros am safbwyntiau'r deisebydd cyn penderfynu
pa gamau pellach i'w cymryd o ran y ddeiseb.
Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 115 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- 20.06.17 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 86 KB
Cofnodion:
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.
Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 116 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- 06.03.17 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 108 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn:
·
aros am ymateb gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
yn nodi a ydynt yn bwriadu cynnal unrhyw waith pellach ar y mater hwn, cyn
penderfynu sut i symud y ddeiseb yn ei blaen; a
·
gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant pryd y mae'n bwriadu
gwneud datganiad ar y mater.
Cyfarfod: 01/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb i Wahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn
perthynas â deiseb i Wahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid a
chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
ynghylch ei amserlen ar gyfer penderfynu a oes angen deddfu ar y mater.
Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 115 KB Gweld fel HTML (2/1) 8 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 93 KB Gweld fel HTML (2/2) 37 KB
- 04.01.17 Gohebiaeth – gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 167 KB
- 06.02.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 100 KB Gweld fel HTML (2/4) 19 KB
Cofnodion:
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A:
Cyflwynodd Fil arfaethedig i falot yr Aelodau ar yr un
pwnc â’r ddeiseb.
Datganodd Gareth Bennett y budd perthnasol a ganlyn o dan
Reol Sefydlog 17.24A:
Cyflwynodd Fil arfaethedig i falot yr Aelodau ar yr un
pwnc â’r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y canlynol:
- y
Pwyllgor Cymunedau Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol i ofyn a ydynt yn
bwriadu ymgymryd â gwaith ar y mater hwn; ac
·
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn am ragor o wybodaeth
am yr amserlen ar gyfer penderfynu a oes angen deddfu ar y mater.