Cyfarfodydd

P-05-733 Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-733 Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o gofio cefnogaeth y deisebydd ar gyfer dull Ysgrifennydd y Cabinet, cytunodd i gau'r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, roeddent yn dymuno diolch i'r deisebydd am ddod â'r ddeiseb ymlaen a'i chyfraniad at eu hystyriaeth o'r mater.

 


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-733 Dim camau pellach o gwbl mewn perthynas â Pharthau Perygl Nitradau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i aros am gyhoeddiad ar y camau gweithredu nesaf gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr ymgynghoriad, fel y cytunwyd yn flaenorol.

 

 


Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-733 Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, i rannu sylwadau'r deisebwr, a gofyn a yw asesiad effaith rheoleiddiol ar effaith economaidd a chymdeithasol y cynigion wedi cael ei wneud, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried dulliau amgen; ac

·         aros am gyhoeddiad ynghylch camau gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru ar ôl yr ymgynghoriad.

 


Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-733 Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar ymateb Llywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r mater hwn.