Cyfarfodydd
NDM6190 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 14/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 14/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru
NDM6190 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau
lleol i sicrhau nad oes yr un aelwyd lle mae plant yn wynebu cael eu troi allan
yng Nghymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.47
NDM6190 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau nad oes yr un aelwyd lle mae
plant yn wynebu cael eu troi allan yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.